Caiff ei ddweud bod plentyn anabl yn blentyn sydd wedi cael ei fendithio gan Dduw, ac mae hynny’n sicr yn wir am Matthew – mae’n blentyn mor hapus sy’n lledaenu llawenydd drwy ei wên heintus...ac eto mae e’ wedi bod drwy gymaint ac ynte' mor ifanc. Ganed Matthew i’m merch hynaf i Rebecca, cyn amser, ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd. Roedd e’n fabi bach bach 1 pwys 12 ½ owns ac fe’i rhuthrwyd i’r uned gofal dwys i fabanod yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd. Yng ngeiriau Rebecca, roedd e’n "wired for sound" gyda thiwbiau, gwifrau a diferwyr amrywiol. Fe oedd y peth mwyaf gwerthfawr i mi erioed ei weld yn fy mywyd.
Yna bu trychineb – 24 awr ar ôl ei enedigaeth, cafodd e’ drawiad ar ei galon. Cafodd fy ngwraig i Moira ei rhuthro i’r ‘Gwent’ gan yr heddlu, i fod gyda Rebecca. Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, aeth ymgynghorydd â ni i’r ystafell dawel – ro’n i’n casáu’r ystafell honno cymaint gan ei fod yn fan cipio breuddwydion o blentyndod oddi wrth rieni (ond dwi’m yn teimlo fel hynny mwyach, a dweud y gwir).
Dywedodd yr ymgynghorydd wrthon ni fod trawiad ar y galon i blentyn o oedran Matthew yn cael ei achosi gan un o dri pheth a, phe bai’n cael ei achosi gan un o’r ddau cyntaf, gallai’r rhain gael eu trin diolch byth. Yn anffodus, roedd Matthew wedi cael y trydydd, gwaedu ar yr ymennydd – mewn geiriau meddygol, gwaedlifau mewnfentriglaidd ac isddiwral deuochrol. Roedd ganddo tua 24 awr, fan bellaf, i fyw. Doedd dim modd disgrifio’r boen a deimlais ar y pryd ar ran fy merch a’r dyn bach annwyl hwn. Felly, drwy esgus bod yn ddewr ar ran Becky a’i phartner y pryd hwnnw, David, fe wnaethon ni fel teulu baratoi ar gyfer y gwaethaf. Cafodd ei fedyddio a rhoddwyd yr eneiniad olaf iddo.
Adeg y bedyddio, digwyddodd rhywbeth rhyfedd, daeth ymdeimlad o fodlonrwydd drosta’ i. Yna, dechreuodd Matthew wella. Fe wnaeth Matthew barhau i wella ac er y bu rhwystrau, dechreuon ni drafod beth fyddai’n digwydd pan aethon ni â Matthew adre, ac nid os bydden ni’n mynd ag e adre’. Cawsom gyngor i beidio â disgwyl gormod oherwydd byddai Matthew yn anabl iawn – ond cyn belled ag y byddai e’n byw, ro’n i’n teimlo y bydden ni fel teulu’n ymdopi.
Ar ôl chwe mis yn yr Uned Gofal Dwys i Fabanod (y 'skubu'), cafodd Matthew ganiatâd i ddod adre’. Roedd angen ymweliadau dyddiol arno o hyd gan y nyrsys gan ei fod yn cael moddion i deneuo’i waed. Hefyd, roedd e’n cael renitidine a gaviscon babanod ar gyfer ei adlif, roedd e’n cael pulmicort a subutamol oherwydd yr amheuaeth bod asthma arno. Ac felly dechreuodd arfer dyddiol o foddion a gofal. Roeddwn i’n dechrau teimlo fel arbenigwr meddygol yn dysgu’r holl eirfa newydd hyn.
Rhwng Rebecca, David, Moira a finne, fe wnaeth bob un ohonon ni gymryd ein tro i ofalu am Matthew. Cafodd e ddiagnosis bod parlys yr ymennydd arno ac fe wnaeth hyn effeithio ar ei freichiau a’i goesau. Roedd e hefyd wedi colli clyw ar y ddwy ochr a chafodd cymhorthion clyw eu ffitio ar ei gyfer - roedd gweld y dyn bach ‘ma’n gwisgo’r cymhorthion clyw lleia’ welais i erioed yn dirdynnu’r fron.
Hefyd, mae perygl i Matthew anadlu ei fwyd ei mewn felly rhoddodd arbenigwr lleferydd ac iaith gyngor i ni ar sut dylen ni fwydo Matthew. Cafodd system eistedd arbenigol ei roi i ni, y cyntaf o lawer gymaint o offer a gynlluniwyd i wneud bywyd bob dydd Matthew mor ddiogel a chyfforddus â phosibl. Roedd hi’n bwysig dilyn y cyngor a roddwyd i ddiogelu iechyd Matthew - gallai dagu ar ei fwyd, ond hefyd, gallai cael bwyd yn ei ysgyfaint achosi heintiau ar y frest a gwanhau ei frest gwan fwy fyth.
Aeth bywyd yn ei flaen am ychydig fisoedd, ond roedd pethau’n mynd yn annioddefol. Roedd gormod o bobl yn byw yn y tŷ oherwydd pan ddaeth Matthew adre’, symudodd David, partner Becky, i mewn gyda ni. Penderfynwyd y dylen nhw wneud cais am le iddyn nhw’u hunain ac, ychydig o fisoedd yn ddiweddarach, symudon nhw i fflat yn Nhrecenydd.
Fodd bynnag, fe wnaeth hyn ddim gweithio ac fe wnaethon nhw ymadael ei gilydd. Roedd hi’n anodd ar Becky ddelio ag anghenion bob dydd Matthew ar ei phen ei hun. Er gwaetha’ ymdrechion gorau Eve, gweithiwr allweddol Matthew o Ganolfan Blant Caerffili, a Lyndsey o’r gwasanaethau cymdeithasol, cyfaddefodd Becky nad oedd hi’n gallu ymdopi. Dywedais i a Moira y bydden ni’n ymgymryd â lles Matthew a dechreuon ni ar y broses o ddysgu rhoi’r gorau y gallen ni ei roi i Matthew.
Roedd rhaid i ni benderfynu nawr beth oedd y peth gorau i’w wneud i bawb, yn ond yn enwedig i Matthew. Dywedodd nifer o therapyddion fod Matthew wedi mynd yn isel ac yn llesg pan oedd e’n byw yn y fflat ac rwy’n credu bod hynny wedi digwydd oherwydd bod Matthew’n colli ei deulu estynedig. Penderfynwyd y bydden ni’n gwneud cais am Orchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig (SGO), oherwydd byddai hyn yn rhoi cyfrifoldeb rhieniol i ni ond hefyd yn cadw’r rhieni biolegol mewn cyswllt hefyd.
Ym mis Rhagfyr 2008 yn y llys teulu yn y Coed-duon, cawson ni SGO a daethon ni’n warcheidwaid cyfreithiol ar gyfer Matthew. Dechreuon ni ar y broses o ddewis ysgol i Matthew. Wrth gwrs, dim ond un dewis oedd i ni, a hwnnw oedd Cae’r Drindod yn Ystrad Mynach .
Mae Matthew wedi bod yn mynd i Ganolfan Blant Caerffili ers 2007. Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael gan y ganolfan o ran gweithio allweddol, gofal seibiant a chylch chwarae meithrin y plant wedi bod yn amhrisiadwy. Mae un elfen o hyn wedi bod yn llesol iawn – y cysylltiad â rhieni a gwarcheidwaid eraill, cyfarfod yn ystafell y teulu ac yna trafod ein plant. Mae hyn yn rhoi ymdeimlad o gwmnïaeth a’r ymdeimlad nad ydyn ni ar ein pen ein hunain – mae e’ hefyd wedi rhoi cyngor da a "ydych chi wedi ceisio cysylltu â ………", a "oeddech chi’n gwybod…….", "ydych chi wedi hawlio…..". Mae hyn oll yn wych oherwydd mae’n rhoi’r sicrwydd y chi bod help allan yno ac mae e’ hefyd yn cadarnhau beth mae therapyddion a gweithwyr proffesiynol eraill wedi’i ddweud wrthon ni.
Un o’r gwasanaethau gorau sy’n cael ei ddarparu yw’r gwasanaeth gweithio allweddol. Mae hwn yn cynnig cymaint o gefnogaeth, help a chyngor. Hefyd, mae’n dod â holl therapyddion Matthew at ei gilydd mewn un lle, gan wneud bywyd gymaint yn haws i ni. Roedd yr help a’r cyngor a gawson ni wrth wneud cais am yr SGO yn amhrisiadwy ac mae’n braf bod help ar gael dim ond o wneud un galwad ffôn. Yn sicr, bydden ni eisiau pwysleisio i bawb pa mor bwysig fu gwasanaeth y gweithiwr allweddol i ni a pha mor falch rydyn ni bod Cefnogi Cynnar yn hyrwyddo gwasanaethau’r gweithiwr allweddol fel rhan o’i ddull cyffredinol o weithio gyda theuluoedd.
Mae Matthew nawr bron yn bedair oed ac mae’n rhoi pleser mawr i ni. Rydyn ni mor falch o’i gyflawniadau. Mae e’ wrth ei fodd â’r ysgol y mae’n mynd iddi 2 ddydd a hanner yr wythnos ac mae e’n blentyn hapus iawn - er bod angen therapi rheolaidd arno, mae ganddo restr hir o foddion y mae’n rhaid iddo’u cymryd bob dydd ac wrth gwrs mae angen gofal arno pan fydd yn bwydo oherwydd bod perygl o hyd y bydd e’n anadlu ei fwyd i mewn. Mae ein cartref wedi cael ei droi wyneb i waered oherwydd yr addasiadau ar gyfer ei anghenion - ond mae’r addasiadau hyn yn gwneud bywyd cymaint yn haws i bob un ohonon ni. Ein gobaith yn y dyfodol yw y bydd Matthew’n gallu cerdded dipyn - ond dydy’r bennod honno heb gael ei hysgrifennu eto.
"NO BURDEN IS HE TO BEAR, WE’LL GET THERE"