El- boy eating lunch on his ownAlex ydw i a bydda’ i’n 4 oed ym mis Mehefin (2010). Rwy’n byw gyda fy mami, fy mrawd mawr Richard, a’m chwaer Jodie. Mae gen i chwaer arall, Kayleigh, ond hi yw’r hynaf a dydy hi ddim yn byw gyda ni nawr.

Cyfeiriodd fy ymwelydd iechyd fi i ganolfan y plant yng Nghaerffili pan roeddwn i’n 17 mis oed achos doeddwn i ddim yn cerdded nac yn edrych yn llygaid pobl, ond roeddwn i’n hapus yn cropian ac yn symud o gwmpas mewn cylchoedd achos roedd hynny’n hwyl.

Aeth mami â fi i lawer o apwyntiadau a rhoddais i sioc i bobl achos pa mor dda roeddwn i wrth adnabod rhifau a chyfrif a gwneud cardiau fflach pan nad oedd plant eraill fy oedran i yn gallu gwneud hynny. Ym mis Medi 2008 dywedodd y meddyg fod gen i anhwylder ar y sbectrwm awtistig. Mae’n help fod mami a phobl eraill yn gwybod fy mod i’n awtistig, ond yr un Alex, y mab a’r brawd ydw i ag oeddwn i cyn i mi gael diagnosis. Rwy’n dwli ar chwarae gyda’m ceir ac rwy’n defnyddio fy nychymyg i chwarae. Mae mami’n dweud ‘mod i’n hoffi bod yn haerllug a ‘mod i’n busnesa ym mhopeth, ond rwy’n edrych fel angel, felly dydy pobl ddim yn gweld hynny; maen nhw’n meddwl ‘mod i’n giwt.

Nawr ‘mod i’n fachgen mawr rwy’n mynd i’r feithrinfa leol bob prynhawn gyda’r plant eraill rwy’n byw’n agos atyn nhw ac rwy’n dwli arno fe. Rwy’n cael rhywfaint o help yn yr ysgol gyda mynd i’r tŷ bach ac ar gyfer siarad ac iaith. Rwy’n glyfar iawn achos fi yw’r unig un yn y dosbarth sy’n gallu darllen ac mae fy athrawes yn anfon llyfrau adref i mi eu darllen. Mae mami’n falch iawn bod gen i le amser llawn yn fy ysgol ym mis Medi.