El- mia playing with big mittensHelo, Mia yw fy enw i, rwy’n dair oed. Rwy’n annwyl, yn hardd, yn aml yn llawn direidi ac yn haerllug, ac yn aml yn ddrwg iawn (yn enwedig gan ‘mod i’n hoffi tynnu gwallt fy chwaer fach, Eva, a dwyn ei thedi), o, a hefyd rwy’n anhygoel o giwt a swynol. Rwy’n glyfar iawn ac rwy’n dwli ar gopïo synau a geiriau. Rwy’ wedi dechrau dysgu arwyddo gyda mami ac rwy’n hoffi cerddoriaeth yn arbennig ac yn mwynhau gwneud symudiadau i’m hoff ganeuon fel "Pen, ysgwyddau, coesau, traed". Rwy’n dweud wrth bawb mai "Bianca" yw fy enw i; mae hyn yn gwneud i mi chwerthin yn uchel bob tro, er ‘mod i’n gwybod sut i ddweud fy enw go iawn, Mia. Rwy’n dwli ar fwydo fy hun ac yfed o’m cwpan (heblaw am pan fydd hwyliau drwg arna’ i a bydda’ i’n taflu fy nghinio dros mami)! Rwy’n dwli ar dreulio amser gyda mam-gu a thad-cu sy’n fy ngharu i’n fawr iawn. Rwy’n cael gwersi nofio bob wythnos ac rwy’n fabi’r dŵr go iawn. Rwy’ wir yn mwynhau reidio fy ngheffyl siglo, dyma fy mhrif hobi yn ogystal ag edrych trwy fy hoff lyfrau ac rwy’ wir, wir yn dwli ar wylio cartwnau ar y teledu. Mae gen i’r gallu i lwyddo yn yr hyn rwy’n bwriadu ei wneud ac rwy’n dwli ar ddod â hapusrwydd i eraill. Mae fy mami a’m dadi yn dweud o ddiwrnod fy ngeni gwnes i gipio eu calonnau ac mae eu cariad tuag ata’ i’n tyfu a thyfu. Rwy’ llawn hyder ac yn mwynhau darganfod bywyd….o, a ches i fy ngeni â syndrom Down.

Bu’n rhaid i mi wynebu llawer o frwydrau yn ystod fy mlynyddoedd cyntaf; gwelwch chi, ces i fy ngeni gyda 2 nam ar fy nghalon ac roedd rhaid i mi gael 9 llawdriniaeth yn Ysbyty’r Plant ym Mryste. Rwy' wedi treulio llawer o amser yn yr ysbyty yn gwella a bu amser pan oedd mami a dadi wedi gweddïo’n arbennig o galed i mi wella achos roeddwn i’n dost iawn, ond rwy’n ferch fach benderfynol a gwnes i ymladd ac ennill fy mrwydron. Hefyd rwy’ i fod i wisgo sbectol achos bod problem fach gyda’m llygaid, ond rwy’n hoffi rhoi her i mami, bydda’ i’n eu gwisgo nhw yn y diwedd, pan na fydd yn gymaint o hwyl i gynhyrfu mami! Hefyd mae gen i anawsterau clywed ac rwy’n fyddar mewn un glust, ond dydw i ddim yn gadael i hynny fy rhwystro rhag mwynhau caneuon a cherddoriaeth, ac mae’n ddefnyddiol weithiau pan fydd mami’n dweud wrtha i beth i’w wneud a bydda’ i’n esgus fy mod i’n methu ei chlywed hi!

El- mia playing with mum and staffAr y foment fy hoff ffordd o symud o gwmpas yw ar fy mhen ôl; rwy’n dwli ar shifflo i bob man er bod fy ngweithiwr cludiad, Ceinwen, yn dweud y drefn wrtha’ i! Rwy’n gallu cropian ar fy mol fel mae hi’n dweud wrtha’ i am ei wneud, ond gwelwch chi, rwy’n hoffi gwneud pethau fy ffordd fy hunan, dyna, mae’n rhaid, yw’r ystyfnigrwydd mae mami’n siarad amdano drwy’r amser! Mae fy nghoesau’n mynd yn gryfach bob dydd ac rwy’n gobeithio y byddaf yn gallu dechrau cerdded cyn bo hir. Rwy’n cael llawer o hydrotherapi a ffisiotherapi i’m helpu i a gallwch chi fy ngweld i’n aml yn gwibio o gwmpas yr ystafell chwarae yn fy ffrâm gerdded merlyn yng Nghanolfan y Plant yng Nghaerffili’n gyflym iawn! Rwy’n mwynhau mynd i’r cylch meithrin yn y ganolfan achos rwy wedi bod yn mynd yno ers i mi fod yn fach iawn, roeddwn i’n 8 mis oed yn unig pan gwrddais i â phawb yno am y tro cyntaf. Rwy’ wedi gwneud llawer o ffrindiau gyda phlant eraill sydd mor arbennig â fi ac rwy’n gweld llawer o bobl sy’n helpu fi gyda’m siarad, gyda’m symud ac sydd wedi dysgu llawer o sgiliau i mi drwy chwarae a chael hwyl. Rwy’n dwli ar weld fy ngweithiwr allweddol, Mellissa, sydd bob amser yn gwneud ffỳs fawr ohono i ac mae hi bob amser yn helpu mami gyda llawer o gyngor da.

Achos ‘mod i wedi treulio amser hir yn yr ysbyty pan roeddwn i’n iau, roedd gen i ychydig o broblemau gyda bwyta ac yfed ac roedd rhaid i mi gael tiwb trwy fy nhrwyn i mewn i’m stumog fel roeddwn i’n gallu cael yr holl faeth roeddwn i ei angen i dyfu’n fawr ac yn gryf. Roedd gen i’r tiwb am 2 flynedd a hanner ac roeddwn i’n arfer gyrru mami o’i chof drwy ei dynnu allan yn rheolaidd a oedd yn meddwl bod rhaid i mami ddysgu sut i’w roi ‘nôl drwy fy nhrwyn i mewn i’m stumog. Ond rwy’n ferch fawr nawr a does dim angen y tiwb erbyn hyn achos ‘mod i’n gallu bwyta ac yfed ar fy mhen fy hun; rwy’n dwli’n arbennig ar siocled ond mae mami’n difetha’r hwyl achos dydy hi ddim yn gadael i mi ei gael pob amser bwyd, ond os bydda’i i’n rhoi’r wên fwyaf i dadi bydd e’n mynd i ‘nôl peth i mi achos yn bendant merch dadi ydw i.

Dechreuais i fynd i gylch meithrin arall ym mis Medi ac rwy’n mwynhau treulio amser gyda’r plant eraill yn fawr iawn, rwy’ wedi dysgu cymaint ganddyn nhw achos ‘mod i’n dwli ar gopïo popeth maen nhw’n ei wneud. Rwy’n arbennig o hoff o’m cynorthwywraig un-i-un, Jo, sy’n gwneud yn siŵr ‘mod i’n ddiogel ac yn hapus. Rwy’n mwynhau creu pethau i mami a dadi, ac mae’n fwy o hwyl fyth pan fydd yn amser i’r glityr a’r pethau sgleiniog ddod allan; yn aml bydd mwy arna’ i nag ar fy ngwaith celf! Ond fy hoff ran yw amser stori pan fydd yr holl fechgyn a merched yn eistedd gyda’i gilydd. Y rhan fwyaf anodd i mi yw bod rhaid i ni gadw’n dawel a gwrando ar y stori, fel y gwelwch chi, rwy’n dipyn o glebren. Yn wir, rwy’ mor dda wrth ddysgu nawr, rwy’n fwy nag abl i fynd i ysgol brif ffrwd y flwyddyn nesaf.

El-mia and friendMae mami a dadi’n dweud wrtha’ i bob dydd eu bod yn falch iawn, iawn ohono’ i a’m chwaer Eva, ond roedden nhw wedi’u cyffroi gymaint pan gafodd fy ffotograff ei ddefnyddio fel rhan o’r Rhaglen Cymorth Cynnar. Rwy’ mor falch o chwarae rôl fel hyn a rhannu fy stori achos ei fod yn bwysig iawn i mamis a dadis eraill fel fy rhai i gael rhwydwaith cymorth a chyngor wedi’i gydlynu ar gael iddyn nhw, achos er ‘mod i’n dod â phleserau a rhesymau newydd i fod yn falch bob dydd, rwy’ hefyd yn gallu rhoi llawer o helyntion a heriau...... ond, hei, rwy’n dair oed a dyna yw fy ngwaith......!

Cafodd y stori hon ei hysgrifennu gyda help fy mami, Ceri.