Seren 4Seren yw fy enw i ac rwy’ bron yn 4 a hanner oed (ym mis Mawrth 2010). Rwy’n byw gyda Sarah, fy mami, a merch mami ydw i. Pan fydda’ i’n cwrdd â phobl am y tro cyntaf rwy’n dawel ac yn swil iawn ac efallai bydda’ i’n cuddio y tu ôl i mami achos rwy’n gwybod y bydd hi’n fy nghadw’n ddiogel.


Gofynnodd mami i lawer o bobl am gymorth a chyngor pan roeddwn i’n fach achos roedd hi’n poeni ‘mod i ddim yn tyfu mor gyflym â phlant eraill. Doedd neb yn gwrando ar mami nes ‘mod i’n 18 mis oed ac wedyn ces i fy nghyfeirio at y Ganolfan Plant i gael rhywfaint o help.

Rwy’ wedi cael diagnosis o PVL (Lewcomalacia Perifentriglol) - mae’n ddoniol iawn fod neb yn gallu ei ddweud e’n iawn a dydy rhai pobl ddim yn deall beth yw e. Mae mami’n esbonio ei fod fel parlys yr ymennydd.

Rwy’n dwli ar gerddoriaeth a dawnsio, rwy’n mynd i grŵp gyda fy nghyfnither sy’n llai na fi ac rydyn ni’n canu ac yn dawnsio. Fy hoff ddawns yw’r ‘okey cokey’. Rwy’n mwynhau gwylio rhaglenni teledu sydd â llawer o ganeuon fel ‘mod i’n gallu neidio a dawnsio wrth eu clywed nhw.

seren and mum 1

Rwy’n mynd i’r ysgol leol 5 bore’r wythnos lle mae gen i fenyw sy’n rhoi cymorth i fi. Mae mami wedi bod yn edrych am ysgol wahanol ar gyfer mis Medi, gyda menyw o’r adran addysg. Maen nhw’n meddwl y bydda’ i’n dysgu’n well mewn uned fach lle galla’ i gael llawer o anogaeth a chofweini.

Rwy’n falch bod mami mor drefnus a chryf fel bydd hi’n gwneud yn siŵr bod pobl yn gwrando achos rwy’n gwybod ei bod hi eisiau’r gorau i fi a bydd hi’n gwthio i wneud yn siŵr ‘mod i’n cael beth sydd ei angen arna’ i.