Helo. Mattie ydw i ac rwy’n mwynhau bywyd i’r eitha’. Yn anaml iawn y gwelwch chi fi heb wen ar fy wyneb, ac os nad ydw i’n gwenu, dwi ddim yn hapus! Rwy’n byw gyda fy nhad-cu a mam-gu ac anti ac wncwl. Rwy’n caru fy nheulu i’n fawr, ac rwy wrth fy modd pan fydd pawb yn ein tyn ni, yn enwedig os fi sy’n cael y sylw i gyd! Rwy’n fachgen bach mor gymdeithasol, a fi yw enaid pob parti!
Cefais fy ngeni pan oeddwn i’n 24 wythnos a 3 diwrnod oed ac achosi pryder i bawb. Roeddwn i mor sâl, gwnaeth fy nheulu i baratoi i ddweud hwyl fawr wrtha’ i gan nad oedden nhw’n meddwl y byddwn i'n byw. Ond edrychwch arna’ i nawr! Efallai bod angen lot o offer a chefnogaeth arna’ i ond rwy’n cael amser gwych lle bynnag yr af i a does neb yn fy atal i rhag rhoi cynnig ar unrhyw beth.
Mae gan fy nghorff i ei feddwl ei hun a phan rwy’n cyffroi, mae’n gwneud y gwrthwyneb i’r hyn rydw i eisiau ei wneud, felly byddwch yn ofalus neu efallai rodda’ i swaden i chi! Rwy’n 4 oed nawr ac rwy’n tyfu’n gyflym iawn. Rwy’n hoff iawn o’r cyfrifiadur a chwarae gêm y trên a gwrando ar fy hwiangerddi. Rwy’n mwynhau darllen a llyfrau ac rwy’ newydd ddysgu troi’r tudalennau gyda fy nhafod!! Mae gen i synnwyr digrifwch gwych a diddordeb mawr mewn mwncïod. Mae mam-gu’n dweud 'mod i’n hoffi mwncïod oherwydd ‘mod i’n fwnci! Rwy’n gwybod beth rwy’n ei hoffi, a beth rwy’ ddim yn ei hoffi. Galla’ i fod yn eitha’ ’styfnig ac os nad ydw i eisiau rhywbeth, fe wnaf i ddweud ‘Na’. Mae mam-gu a dad-cu’n dweud 'mod i’n swnio’n grand ofnadwy pan fydda’ i’n dweud na!! Rwy’n mwynhau canu ac mae gen i lais eitha’ da. Yn wir weithiau, gall fy nheulu i ddyfalu beth rwy’n ei ganu o’r alaw ac nid y geiriau! Rwy’ newydd ddechrau defnyddio radio arbennig yn yr ysgol ac nawr rwy’n gallu clywed popeth mae’r athro yn ei ddweud. Mae hyn wedi rhoi dewis newydd sbon o eiriau i mi roi cynnig arnyn nhw gyda phawb!
Weithiau, mae pobl yn meddwl nad ydw i’n gallu gwneud llawer, ond dydy gwneud pethau’n wahanol ddim yn golygu nad ydw i’n gallu gwneud pethau. Mae fy nheulu i’n helpu pobl eraill i ddeall cymaint rwy’n gallu ei wneud, gan eu bod nhw’n f’adnabod i’n arbennig o dda.
Rwy’ wedi cwrdd â llawer iawn o bobl yn fy mywyd byr i; yn wir, rwy’n amau mod i wedi cael rhyw wasanaeth gan bawb. Roedd angen gweithiwr allweddol ar fy nheulu i helpu gyda hyn, yn enwedig pan oeddwn i’n fach, gan fod cymaint o bobl yn gysylltiedig. Mae’n drueni nad oes un ganddyn nhw nawr gan eu bod nhw’n treulio cymaint o amser yn gwneud gwaith i gael trefn ar bethau i mi, fel ’mod i weithiau’n colli allan ar dreulio mwy o amser gyda nhw.