Ellis ydw i a bydda’ i’n bedair oed ym mis Mehefin (2010). Rwy’n byw gyda mami (Elizabeth), dadi (David) a fy chwaer fawr Katie. Ces i ‘ngeni gyda chluniau wedi’u datgymalu’n gynhenid, ond nid oedd neb wedi sylwi ar hynny am amser, felly bu oedi cyn i mi gael yr help a’r gwasanaethau yr oedd eu hangen arna’ i. Bu’n rhaid i mi dreulio 11 mis mewn plaster a dydy hynny fawr o hwyl pan rydych chi’n fachgen bach.
Mae llawer o bethau wedi digwydd ers cael gwared ar fy nghast. Ym mis Tachwedd 2008, bues i’n anhwylus am ‘chydig wythnosau yna cefais fy rhuthro i’r ysbyty oherwydd ces i waedlif ar yr ymennydd a arweiniodd at strôc a llawer o ffitiau. Roeddwn i’n cysgu am y rhan fwyaf o’r amser hwn, ond oherwydd ‘mod i mor sâl, ‘wnaeth mam na dad ddim cysgu; symudon nhw ddim o ‘ngwely i. Roedd gen i diwb cas i lawr fy ngwddf (peiriant anadlu) a wnaeth ddolur i’m pibell wynt i – os nad oedd digon yn digwydd. Bu’n rhaid i mi gael traceotomi i’m helpu i anadlu a llawer o lawdriniaeth ar fy ngwddf i’w wella eto. Roedd mami’n gwybod am weithio allweddol oherwydd roedden ni wedi bod i’r ganolfan blant, felly fe wnaeth hi ffonio a’n cyfeirio ni ei hun fel y gallwn i gael fy anfon adre’ o’r ysbyty gyda’r help yr oedd ei angen arna’ i yn y gymuned. Fi yw hogyn cryf a dewr mami. Efallai y bues i’n sâl iawn ond rhoddais sioc i bawb drwy wella mor gyflym.
Rwy’n caru fy chwaer fawr Katie, mae hi’n wych. Pan oeddwyn i’n sâl fe wnaeth hi adael i mami a dadi aros yn yr ysbyty pan oedd mam-gu’n gofalu amdani hi. Roedd y meddygon wedi rhoi meddyginiaeth i mi i atal fy ffitiau ond mae hynny wedi effeithio ar fy ymddygiad a ‘mhersonoliaeth i. Roedd hi’n anodd i Katie fy ‘mod i’n torri ei phethau ac yn gas iddi hi weithiau, felly cafodd hi gefnogaeth gan y Tîm Ymyrryd Teuluol ac mae hi’n mynd i grŵp gyda Barnardos gyda brodyr a chwiorydd mawr eraill sydd wedi cael profiadau tebyg. Roedd angen rhywun ar dadi i siarad â nhw hefyd oherwydd bod yr ofn fy ‘mod i mor sâl wedi ei wneud yn drist iawn. Mae’n bwysig bod llawer o bobl i helpu fy nheulu, nid dim ond helpu fi. Galla’ i gael meddyginiaeth a llawdriniaeth ond mae’r boen maen nhw wedi’i chael yn wahanol. Mae fy nheulu i’n wirioneddol ddiolchgar am yr holl help a chefnogaeth rydyn ni wedi’u cael gan y ganolfan blant
Rwy’n mynd i’r ysgol nawr gyda phob un o’m ffrindiau sy’n byw’n agos ata’ i. Fy hoff weithgaredd yw peintio, ac rwy’n cael mynd i lawer o bartïon pen-blwydd gyda fy ffrind gorau, Emily. Bu’n rhaid i mami blagio llawer i fi gael datganiad fel fy ‘mod i’n cael y gefnogaeth sydd ei hangen arna’ i yn fy ysgol leol, ond mae hi wedi cael trefn ar hynny nawr.