daniel 1Haia, fy enw i yw Dan (neu Daniel pan fydda’ i’n ddrwg gartre’!) ac rwy’n 3 blwydd a mis oed! Rwy’n byw gartre’ gyda mam a dad ac roedd aros mawr amdana’ i’n fabi. Rwy’n mwynhau chwarae gyda lot o deganau ac mae’r un mwyaf newydd yn degan sy’n goleuo pan mae’n clywed sŵn! Gwych! ‘Sdim taw arna’ i pan fydd y tegan hwnnw o gwmpas, gan fod unrhyw sŵn rwy’n ei wneud yn cychwyn y tegan! Fe ges i ‘ngeni’n llawer rhy gynnar i fod yn iawn ar fy mhen fy hun, felly roedd angen llawer o ofal dwys arna’ i yn yr ysbyty lle ces i ‘ngeni. Roedd gen i efell o’r enw Timothy am wythnosau cynta’ ‘mywyd i ond fe wnaeth e ddim dal ati. Fentra’ i y byddwn ni wedi bod yn ddau fwnci drwg gyda’n gilydd!

Bu’n rhaid i mi dreulio amser hir yn yr ysbyty pan ges i ‘ngeni ac roeddwn i’n poeni mami a dadi drwy’r amser. O’r diwedd, gyrhaeddais i adref gyda rhywfaint o ocsigen ac er bod mami a dadi’n edrych ymlaen at ddod â mi adre, roedden nhw’n poeni braidd gan eu bod nhw i ffwrdd o’r holl help meddygol! Pan ddes i adre’, roedd gen i ffisiotherapydd a gweithiwr allweddol a chyn hir, roedd gen i restr hir o ‘antis’ newydd a oedd yn dod i ‘ngweld i. Pan oeddwn i’n fach, roeddwn i’n swyno’r merched i gyd ac roedd pawb wrth eu bod yn cael cwtsh gyda mi. Nawr, rwy’n troi’n fwnci bach ac mae ‘nhrwyn i’n busnesa’ i bopeth. Mae gan fy nghorff ei feddwl ei hun ac weithiau bydd yn gwneud y gwrthwyneb i’r hyn rwy’n ei ddweud wrtho’. Mae fy ‘antis Claire a Clare’ yn gweithio’n galed iawn gyda mi i helpu i mi gael fy nghorff yn yr osgo cywir fel y galla’ i chwarae. Dwedwyd wrth mam a dad mai parlys yr ymennydd yw hyn oherwydd ces i ‘ngeni mor gynnar. Ces i rywfaint o therapi Bobath a wnaeth fy helpu i a mam a dad ac mae gen i lawer o offer sy’n fy helpu i i wneud y pethau rwy’n cael trafferth gyda nhw.


Bydda’ i’n mynd i’r ysgol cyn bo hir sy’n wych, oherwydd rwy’n mwynhau’r feithrinfa yn y ganolfan blant mas draw. Rwy’n cael amser mor dda, rwy’n cysgu’r holl ffordd adre!