cameron poppy banner

Mae plant yn cyrraedd y byd hwn am amrywiaeth o resymau, weithiau maen nhw’n gwneud i ni chwerthin, weithiau byddwn ni’n crio, ond maen nhw’n cydio yn eich calon, a’i gofleidio. Yr un peth y gallwn ni fod yn sicr ohono yw y byddan nhw’n newid ein bywydau am byth!

Ganed Cameron ar 13 Ebrill 2005 drwy doriad Cesaraidd, i sain Joss Stone, ac roedd cymaint o groes i’w grio cyntaf, fel y gwnaethon ni gyd ymuno ag e’. Ganed Cameron gyda chyflwr prin a difrifol iawn o’r enw ‘Craniosynostosis’, fodd bynnag, y tro cyntaf y cafodd hyn ei grybwyll i mi oedd yn ystod fy sgan 20 wythnos. Dros y 2 mis nesaf, roedd y farn yn newid tan yr oedd sicrwydd o bron 95% y byddai ein bachgen bach annwyl ni’n cael ei eni gyda’r cyflwr hwn.

Fe’n hanfonwyd ni i Birmingham, lle’r oedden nhw’n disgwyl gweld ‘plentyn’, nid mam feichiog. Fodd bynnag, roedd cerdded i mewn i ystafell yn llawn gweithwyr proffesiynol gwahanol yn ormod, ac wrth i’m hormonau i chwyrlio, dechreuais grio! Fe wnaethon ni adael heb unrhyw wybodaeth bellach oherwydd roedd angen iddyn nhw weld sgan MRI a’r plentyn.

Y diwrnod ar ôl i Cameron gyrraedd, daeth yr arbenigwr yng Nghaerdydd aton ni i roi gwybod nad oedd y newyddion yn dda. Gadawodd fy ngŵr yr ystafell bryd hynny, dyma oedd ei unig blentyn ac nid oedd yn gallu ymdopi â’r newyddion. Llwyddais i wrando; dim ond bod yn onest oedd hi, fel y mae hi bob amser wrth drafod Cameron.

Aros buon ni dros y misoedd nesaf. Roedd yn rhaid i Cameron dyfu’n ddigon cryf i gael llawdriniaeth gymhleth ofnadwy ar ei benglog. Os oedd hon yn cael ei wneud yn rhy gynnar, byddai’n rhy wan, ac o adael y llawdriniaeth yn rhy hir, gallai Cameron fod wedi datblygu enceffalitis.

Buon ni’n gwylio’r ffordd roedd ei ben yn newid siâp gan weddïo nad oedd ei ymennydd yn tyfu’n rhy gyflym. Pan oedd e’n 4½ mis oed, cysylltais i â Birmingham gan erfyn arnyn nhw i gynnal y llawdriniaeth. Roedd ei bwysau’n dda ac roedd e’n heini ac iach. Yn dilyn archwiliad, cafodd Cameron y llawdriniaeth pan oedd e’n 5 mis oed. Roedd hyn yn amser anodd iawn i’w frodyr hŷn Keith (a oedd yn 21 oed bryd hynny) a Dean (a oedd yn 20 oed bryd hynny) oherwydd gan eu bod yn oedolion, roedden nhw’n ymwybodol iawn o holl oblygiadau llawdriniaeth i’w brawd, yn fwy nag unrhyw un arall. Roedd aelodau eraill o’r teulu hefyd yn gofidio llawer yn ystod y cyfnod hwn ac roedd methu gweld Cameron yn gwneud pethau'n fwy anodd fyth.

Ar ôl cyfnod adfer eitha’ hir, roedd Cameron yn gwneud yn dda, aeth i’w apwyntiad claf allanol yn Birmingham, ac o’u rhan nhw, roedd y gwaethaf y tu cefn iddo.

Cameron your stories image

Nid dyna fel yr oedd hi. Yn archwiliad 2 flwydd oed Cameron, roedd ei sgorau’n isel ym mhob peth, felly cafodd ei gyfeirio at Therapi Iaith a Lleferydd, y Pediatregydd Cymunedol, Clyw, Ffisiotherapi ac Orthoteg. Dechreuodd Cameron ar raglen Therapi Iaith a Lleferydd dwys, a wnaeth gynnwys defnyddio iaith arwyddion a’r System Gyfathrebu drwy Gyfnewid Lluniau.

Buon ni’n gwylio wrth i Cameron fynd yn fwyfwy rhwystredig ac roedd yn torri’n calonnau ni i weld ein mab annwyl ni’n taflu ei hun ar y llawr ac yn cnoi ei law ei hun, yna dagrau a blinder llwyr! Beth oedd yn achosi cymaint o boen i’n mab ni a pham na allwn i ei helpu fe?

Erbyn hyn, roedd Cameron wedi dechrau mewn meithrinfa brif ffrwd ac roedd ar ei ail gynorthwyydd un i un o fewn yr ail fis. Straen, ie, roedd pob un ohonon ni’n ei deimlo ac, i ychwanegu at hynny, roedd tad Cameron i ffwrdd am 7 mis oherwydd iddo gael ei anfon i Affganistan. Dros y flwyddyn nesaf, bues i’n gwylio Cameron yn ofalus a dechreuais i ‘bori’ am wybodaeth ar y we. Cefais i fy ateb ar unwaith. Efallai nad oes gen i gymwysterau meddygol, ond rwy’n adnabod Cameron a phan ddarllenais i am Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig ar wefan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, roedd hyn fel darllen am Cameron.

Dechreuais ofyn i rai gweithwyr proffesiynol a oedden nhw’n meddwl efallai bod Anhwylder Sbectrwm Awtistig ar Cameron. Oes oedd ateb POB UN ohonyn nhw! Ymhen hir a hwyr, cadarnhaodd y Pediatregydd Cymunedol a’r Arbenigwr ddiagnosis Cameron yn Chwefror 2009.

Ond dydy pethau fyth mor syml ag y gwnewch chi feddwl, cyn ac ers i ni gael diagnosis ar gyfer Cameron. Mae’n dorcalonnus gwylio’ch mab/brawd/ŵyr/nai yn methu ymdopi â sefyllfaoedd bob dydd, fel mynd i siopa, torri eu gwallt, mynd i mewn i gar gwahanol, methu mynd mewn lifft, toiledau bach, methu ymdopi â newidiadau mewn golau neu arogl neu sŵn. Os ydych chi’n meddwl am unrhyw ddiwrnod y gallech chi ei dreulio gyda’ch plentyn, yna’n edrych ar y rhestr uchod, ac rwy’n siwr y byddai’n cynnwys rhai pethau o’r rhestr, yna mae’n rhaid i chi feddwl, "beth alla’ i wneud i wneud bywyd Cameron yn fwy cyfforddus, gyda llai o straen i gael bachgen bach sy’n hapus ei fyd".

Cameron yw Cameron, fel y rhan fwyaf o’i blant mae e wrth ei fodd pan fydd ei frodyr yn chwarae’n wyllt gydag ef, maen nhw’n rhedeg o gwmpas y tŷ ar eu hôl ei gilydd ac yn chwarae cuddio. Mae e’ wrth ei fodd pan fydd ei dad yn mynd ag e’ i nofio a chwarae meddal. Mae Cameron yn mwynhau mynd allan i gerdded, a dyma pryd rwy’ wrth fy modd yn gwylio Cameron yn rhedeg yn rhydd dros y borfa heb unrhyw berygl o gwbl. Mae cymaint o gyfyngiadau ar Cameron fel mai dyma’r unig amser y mae e’n ddiogel ac yn gwenu ar y tu mewn a’r tu allan, yn y glaw ac yn yr haul. Ei weld yw ei garu, ein mab ni yw e’!

El-looking at familypackMae’n bwysig iawn cofio nad oes unrhyw un yn adnabod eich plentyn fel rydych chi’n ei adnabod ac mae’r wybodaeth sydd gennych chi’n amhrisiadwy, felly pan fyddwch chi’n siarad â gweithwyr proffesiynol, mae’n iawn dweud "a dweud y gwir, dwi’m yn credu y bydd hynny’n gweithio i ‘mhlentyn i, ond rwy’n amau ‘mod i’n gwybod beth allai weithio." Byddwch yn hyderus mai dyma’ch pwnc arbenigol chi, efallai ddim y cyflwr (eto), ond yn fy achos i, fy mab yw ‘nghuriad calon i, felly rwy’n ei adnabod e’.

Yn bersonol, mae fy mab arbennig i'n bendithio ‘mywyd i. Drwyddo e’, rwy wedi cwrdd â phobl garedig, gynnes ac annwyl. Rwyf i a’m teulu i gyd wedi dysgu sgiliau newydd; mae ein bywydau ni’n gyfoethocach!