Helo, fy enw i yw Charlie George Ward, a’r bwriad oedd rhoi’r enw yna i mi p’un a oeddwn i’n fachgen neu’n ferch! Rwy’n bump oed (ac yn ymddwyn fel taswn i’n bymtheg) ac rwy wrth fy modd gartref gyda fy chwaer fach Poppy, fy mrawd mawr Jack, a mam a dad. Mae gennym ni ieir, ac roedd moch gennym ni hefyd. Ond maen nhw’n drewi! Rwy’n mynd i fy ysgol leol, sef ysgol iau Bedwas, sy’n wych oherwydd rwy’n cael gweld fy holl ffrindiau, a’r llynedd, roeddwn i yn yr ysgol gyda ‘mrawd. Flwyddyn nesaf, bydd fy chwaer i yn y feithrinfa, felly bydd rhaid i fi ofalu amdani i wneud yn siwr ei bod yn iawn! Rwy’n caru’r ysgol. Rwy’n cael amser grêt pan fydda’ i yno ac mae rhywun yn fy helpu i i wneud yn siwr ‘mod i’n cael fy nghynnwys yn y pethau mae pawb arall yn eu gwneud. Cyn i mi fynd i’r ysgol, roedd mam a dad yn meddwl bod cadw’n rhan o ‘nghymuned i’n bwysig iawn, ac 'mod i’n mynd i’r un ysgol â Jack a Poppy hefyd flwyddyn nesa’.
Fy hoff bethau i yw popeth! Rwy’n hoffi arwain a bod yn ben, ac os rwy’n cael pryd o dafod, rwy’n aros nes bod neb yn edrych a gwneud fel rwy’ eisiau! Rwy’ wrth fy modd yn darllen ac rwy wedi dechrau dod â llyfrau adre i’w darllen gyda mam a dad. ‘Does dim byd na fedra’ i ei wneud, ond rwy’n gwneud pethau yn fy amser fy hun a phan rwy’n barod i’w gwneud nhw! Rwy’n mwynhau canu a chanu gyda chaneuon. Rwy’n cyffroi llawer, yn enwedig os ydw i’n gwybod beth sy’n dod nesaf yn y gân. Es i i bantomeim yn ddiweddar ac fe wnes i ganu Pen-blwydd Hapus i Clive! Roedd e’n hoffi hynny cymaint fe wnaeth e grio!
Rwy’n hoffi chwarae yn y cornel tŷ ac esgus bod yn fam i’r dolis i gyd. Yn un o fy ffotograffau, rydych chi’n gallu ‘ngweld i’n rhoi bath i fy noli!
Rwy’n mwynhau’r dŵr ac rwy’n nofiwr da iawn. Galla’ i fynd o dan y dŵr a neidio i mewn ac rydyn ni’n mynd gyda’n gilydd fel teulu. Rwy’n cymryd rhan ym mhopeth mae pawb arall yn ei wneud, a pham lai? Rwy’n cael cymaint o hwyl ac o gael ychydig o help, does dim rheswm gen i beidio cael hwyl. Mae pawb eisiau bod yn ffrind i fi ac ar ein diwrnod chwaraeon yn yr ysgol, roedd PAWB yn gweiddi drosta’ i (fy mrawd Jack oedd yn arwain hyn!)
Rwy’n blentyn 5 oed nodweddiadol sy’n mwynhau popeth rwy’n ei wneud a gwneud drygioni. Rwy’n hoffi meddwl nad oes unrhyw beth na alla’ i ei wneud ac rwy’n benderfynol o ddangos i bobl eu bod yn anghywir os ydyn nhw’n dweud 'mod i ddim yn gallu gwneud rhywbeth!