"Mae’r gweithdai hyn wedi cael eu cynllunio a’u datblygu i gefnogi cynnwys plant anabl yn eu cartrefi, yn eu teuluoedd ac yn eu cymunedau. Maen nhw’n edrych ar anghenion teuluoedd o ran gwybodaeth, partneriaeth, lles emosiynol a’r pethau cyffredin mewn bywyd: wrth wneud hyn, maen nhw’n ceisio eu cefnogi i ddarganfod eu hatebion unigryw eu hunain i’w heriau unigryw eu hunain."
(Mark Brown, rhiant)
Cliciwch yma i lawrlytho fwy o wybodaeth am y gweithdai.

Os oes plentyn ag anabledd neu angen arbennig gennych chi, gallech sylwi eich bod chi a’ch teulu’n gorfod newid ac addasu fel y gallwch ymdopi a’r materion a’r anawsterau newydd, ac annisgwyl weithiau, sy’n eich wynebu chi fel teulu. Os ydych chi wedi sylwi’ch bod chi’n mynd drwy’r broses hon o newid, proses sy’n gallu bod yn gymhleth, yn anodd ac yn boenus weithiau, yna gall dod o hyd i rywbeth neu rywun i roi ychydig o gefnogaeth, gwybodaeth a chyngor i chi fod yn ddefnyddiol. Nod y gweithdai i rieni yw cynnig y cyfle hwn. Cynigiant gyd-destun i chi ddod ynghyd â theuluoedd eraill, mewn cyd-destun wedi’i strwythuro, er mwyn bwrw golwg ar beth rydych chi’n ei wybod, beth nad ydych chi’n ei wybod ac i rannu eich profiadau, os ydych chi’n dymuno gwneud hynny.
Gall y gweithdai:-
- eich helpu chi i gael gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael i chi a’ch teulu ac i gyfarfod â rhieni eraill mewn sefyllfa debyg
- gwneud yn siŵr eich bod chi’n teimlo’n fwy sicr eich gwybodaeth fel y gallwch chi gael mwy o ddweud mewn cynllunio gwasanaethau i’ch plentyn.
- yn bwysicaf oll, gallan nhw roi cyfle i chi rannu syniadau am fwynhau bywyd gyda’ch teulu cyfan, dim ots pa mor heriol y gall hynny deimlo ambell waith
Dywedodd Sarah, rhiant a wnaeth gymryd rhan yn y gweithdai i rieni yng Nghaerdydd:
"Trueni na fyddwn i wedi dod ar draws gweithdy Cefnogi Cynnar chwe blynedd yn ôl. Byddai Cefnogi Cynnar wedi gwneud yn union fel y mae’n ei ddweud; wedi rhoi cefnogaeth i mi’n gynnar pan oeddwn i newydd ddarganfod bod anawsterau dysgu dwys gan fy mab ac roeddwn i’n gwybod mod i ar ddechrau taith bryderus ac anghyfarwydd. Ac o edrych yn ôl, bu’n dipyn o daith – yn frawychus a’n heriol ond hefyd yn llawn boddhad ac yn ddiddorol iawn. Er fy mod i wedi cael llawer o wybodaeth a chyngor ar y daith, mae Cefnogi Cynnar wedi rhoi gwybodaeth ychwanegol werthfawr i mi. Mae wedi fy ngalluogi i hefyd i drosglwyddo a rhannu’r profiadau a’r wybodaeth rwy wedi’u cael â rhieni eraill ers dod yn rhiant i blentyn anabl. Derbyn ac Addasu – rwy wedi dysgu byw fy mywyd yn ôl y ddau air hyn, ac mae’n gweithio!"
Mae pedwar gweithdy i rieni, wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer teuluoedd sydd â phlentyn ifanc anabl neu blentyn ag anghenion ychwanegol. Byddant yn eich helpu chi i:-
- Ddeall gwasanaethau cenedlaethol a lleol i blant a theuluoedd, a beth all y rhain eu cynnig
- Deall Cefnogi Cynnar a deunyddiau Cefnogi Cynnar, fel y Pecyn Teuluol
- Teimlo’n fwy hyderus ynghylch gweithio gydag ymarferwyr a gwneud penderfyniadau am daith eich plentyn.
Os hoffech weld ffilm yn sôn am brofiadau rhieni o hyfforddiant, cliciwch yma
Os hoffech gael disgrifiad manylach o’r gweithdai hyn, cliciwch yma.
Os byddai diddordeb gennych ddod yn hyfforddwr yn y gweithdai hyn, cysylltwch â ni.
Os hoffech lawrlwytho disgrifiadau cwrs ar gyfer holl hyfforddiant Cefnogi Cynnar, cliciwch yma.