Mae hyfforddiant Cefnogi Cynnar wedi’i gynllunio i gefnogi gwelliant yn y gwasanaethau i blant anabl a phlant ag anghenion ychwanegol a’u teuluoedd. Ei nod yw galluogi ymarferwyr a rheolwyr, rhieni a gofalwyr i ddatblygu a gwella’u dealltwriaeth o sut mae egwyddorion, dulliau a deunyddiau Cefnogi Cynnar yn eu helpu nhw i roi cefnogaeth well i blant anabl a phlant ag anghenion ychwanegol.
Mae hyfforddiant Cefnogi Cynnar:-
- Yn cynnig cyfle i rieni a gofalwyr ac aelodau eraill y teulu ddatblygu ymhellach eu sgiliau a’u dealltwriaeth o’r byd newydd y maen nhw a’u plant yn mynd iddo, fel bod gallu gwell ganddyn nhw i reoli eu bywydau a datblygu partneriaeth gadarnhaol â’r ymarferwyr sy’n eu cefnogi nhw.
- Yn cynnig cyfle i awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd a’r sector gwirfoddol fodloni disgwyliadau Llywodraeth Cynulliad Cymru y byddan nhw’n defnyddio Cefnogi Cynnar wrth lunio, cynllunio a gweithredu eu gwasanaethau ar gyfer teuluoedd.
- Yn cynnig cyfle i ymarferwyr a rheolwyr fyfyrio ar eu ffordd o weithio gyda rhieni a'i gilydd. Mae’n ei helpu nhw hefyd i ddatblygu’r ddealltwriaeth a’r medrau a fydd yn eu helpu nhw i wella’r gwasanaethau y maen nhw’n eu cynnig i blant anabl a phlant ag anghenion ychwanegol a’u teuluoedd.
Mae’r hyfforddiant wedi’i seilio ar ymrwymiad sylfaenol i roi teuluoedd yn gyntaf, gan weithio mewn partneriaeth â nhw a datblygu gwasanaethau mwy cydgysylltiedig fel bod plant anabl a phlant ag anghenion ychwanegol yn gallu cael dechrau teg mewn bywyd.
I gael rhestr lawn o’r holl gyrsiau sydd wedi cael eu trefnu ar hyn o bryd, cyfeiriwch at y calendr
Mae nifer o wahanol fathau o hyfforddiant – pedwar gweithdy i rieni, chwe chwrs hyfforddi a dau gwrs sy’n arwain at achrediad. Yn ogystal, mae rhaglen hyfforddi i weithwyr allweddol, a fydd yn cael ei hachredu yn y dyfodol agos. I gael gwybod mwy am y rhain, cliciwch ar y dolenni isod.