Croeso i wefan Cefnogi Cynnar. Os parhewch i barhau i bori a defnyddio’r wefan hon, rydych yn cytuno i gydymffurfio â’r telerau a’r amodau defnydd canlynol a chael eich rhwymo ganddynt, sydd, ynghyd â’n polisi preifatrwydd, yn rheoli perthynas Cefnogi Cynnar gyda chi o ran y wefan hon. Os ydych yn anghytuno ag unrhyw ran o’r telerau a’r amodau hyn, peidiwch â defnyddio ein gwefan.
Mae’r term 'Cefnogi Cynnar' neu ‘ni’ yn cyfeirio at berchennog y wefan. Cyfeiriad Cefnogi Cynnar yw d/o Plant yng Nghymru, 25 Plas Winsor, Caerdydd CF10 3BZ. Mae’r term ‘chi’ yn cyfeirio at ddefnyddiwr neu wyliwr ein gwefan.
Darllenwch y telerau ac amodau canlynol yn ofalus oherwydd eu bod yn rheoli defnydd y wefan hon (www.cefnogicynnarcymru.org.uk ):
1) Eich defnydd o’r safle hwn
Mae eich defnydd o’r safle hwn yn golygu derbyn y telerau a’r amodau hyn, sy’n dod i rym ar y diwrnod cyntaf i chi ddefnyddio’r safle. Rydych chi’n cytuno i ddefnyddio’r safle hwn at ddibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn ffordd nad yw’n torri hawliau, cyfyngu ar neu atal defnydd a mwynhad y safle hwn gan unrhyw drydydd parti. Mae’r fath gyfyngu ac atal yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy’n anghyfreithlon neu a allai aflonyddu ar neu achosi trallod neu anghyfleustra i unrhyw un, trosglwyddo deunydd aflan neu dramgwyddus neu dorri ar draws llif arferol y deialog ar y safle hwn.
2) Addasu’r telerau a’r amodau
Mae Cefnogi Cynnar yn cadw’r hawl i newid y telerau a’r amodau drwy bostio’r newidiadau ar-lein. Bydd eich defnydd parhaol o’r safle ar ôl i newidiadau gael eu postio yn golygu eich bod yn derbyn y cytundeb fel y’i diwygiwyd.
3) Hawlfreintiau
Cefnogi Cynnar sy’n berchen ar yr hawlfraint ar y deunydd (gan gynnwys gwybodaeth, delweddau, logos, ffotograffau a golwg gyffredinol y safle). Gwaherddir defnyddio neu gyhoeddi’r deunydd yn fasnachol gan gynnwys atgynhyrchu, storio, addasu, dosbarthu neu gyhoeddi cyn cael caniatâd ysgrifenedig blaenorol gan Cefnogi Cynnar, neu, lle bo’n gymwys, perchennog/perchnogion priodol yr hawlfraint, ac eithrio at eich defnydd personol neu anfasnachol eich hun.
4) Dolenni at wefannau eraill
Nid yw Cefnogi Cynnar yn gyfrifol am gynnwys neu ddibynadwyedd gwefannau trydydd parti cysylltiedig, naill ai at wefan Cefnogi Cynnar neu oddi wrthi, ac nid yw o reidrwydd yn cefnogi’r barnau a fynegir ynddynt. Bydd yn bwysig bod unrhyw safle sydd eisiau creu dolen at wefan Cefnogi Cynnar, neu ofyn i ddolen gael ei chreu atynt, yn cysylltu â ni.
5) Terfynau Atebolrwydd
Nid yw Cefnogi Cynnar yn derbyn atebolrwydd ar gyfer unrhyw niwed, gan gynnwys, heb gyfyngiad, niwed anuniongyrchol neu ôl-ddilynol, colli elw, neu unrhyw niwed o gwbl sy’n deillio o ddefnydd neu golli defnydd y safle hwn neu mewn cysylltiad â hyn. Nid yw Cefnogi Cynnar yn gwarantu y bydd y swyddogaethau a gynhwysir yn y defnydd yn y safle hwn yn ddi-dor neu heb wallau, y caiff namau eu cywiro, neu fod y safle hwn neu’r gweinyddwr sy’n ei roi ar gael heb firysau neu heintiau. Mae defnydd y wefan hon a’r wybodaeth yn risg i’r defnyddiwr yn unig. Ni fydd Cefnogi Cynnar yn atebol o gwbl am unrhyw niwed sy’n deillio o’r wefan hon neu sy’n gysylltiedig â hi. Eich unig rwymedi allgynhwysol o ran anfodlonrwydd â’r wefan hon yw rhoi’r gorau i ddefnyddio’r safle a’r wybodaeth.
6) Cywirdeb y cynnwys
Er y gwnaed ymdrechion rhesymol i sicrhau cywirdeb y cynnwys, ni ellir cymryd unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw wall neu hepgoriad.
7) Sylwadau neu gŵynion
Dylid rheoli a dehongli’r telerau a’r amodau hyn yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfodau sy’n codi yma’n ddarostyngedig yn unig i awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau ynglŷn â’r safle, cysylltwch â ni.