Mae gweithio allweddol yn elfen annatod o gyflwyno Cefnogi Cynnar yng Nghymru. Felly, mae gan Cefnogi Cynnar rôl bwysig i’w chwarae o ran sicrhau bod pobl sy’n gweithio gyda phlant ifanc anabl a phlant ifanc ag anghenion ychwanegol a’u teuluoedd yn gallu manteisio ar hyfforddiant ystyrlon, o ansawdd uchel, sydd bob amser yn canolbwyntio ar yr unigolyn, ar gyfer gweithwyr allweddol.

Mae Rhwydwaith Cydlynu Gofal Cymru (CCNCymru), mewn partneriaeth â Cefnogi Cynnar, wedi datblygu pecyn hyfforddiant ar gyfer gweithwyr allweddol. Rydym ni wedi llunio modiwl hyffodi sydd:-

  • Yn cael ei danategu gan egwyddorion Cefnogi Cynnar ac egwyddorion arfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Wedi’i seilio ar dystiolaeth, yn ogystal ag yn elwa ar brofiadau rhieni ac ymarferwyr
  • Yn hyblyg, fel bod teuluoedd, pobl ifanc, gweithwyr allweddol newydd a phresennol, cynorthwywyr ystafell ddosbarth, anogwyr dysgu a’r holl staff sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc anabl, yn ogystal â rheolwyr strategol, yn gallu manteisio ar yr hyfforddiant a datblygu eu sgiliau drwyddo.

Nod yr hyfforddiant, sy’n cael ei gyflwyno dros ddeuddydd ag un hanner dydd, yw:-

  • Cynorthwyo’r rhai sy’n cymryd rhan yn yr hyfforddiant i ddeall y cyd-destun cenedlaethol ar gyfer gweithio allweddol a chyflwyno gwasanaethau i blant anabl a phlant sydd ag anghenion ychwanegol, a’u teuluoedd
  • Helpu’r bobl sy’n cymryd rhan yn yr hyfforddiant i fwrw golwg ar egwyddorion a dulliau Cefnogi Cynnar a’u cymhwyso nhw yn eu harfer
  • Galluogi’r bobl sy’n cymryd rhan yn yr hyfforddiant i amgyffred profiad y teulu, deall sut i ddefnyddio cryfderau’r teulu i ddatrys problemau a gweithio mewn partneriaeth â’r teulu
  • Bwrw golwg ar ddefnydd effeithiol o’r deunyddiau Cefnogi Cynnar
  • Hyrwyddo dull integredig o weithio gyda gwasanaethau ac asiantaethau eraill, gan gadw’r teulu’n ganolog i hyn
  • Bwrw golwg ar rôl a chyfrifoldebau’r gweithiwr allweddol ac ar arfer gorau mewn gweithio allweddol
  • Helpu’r bobl sy’n cymryd rhan yn yr hyfforddiant i ddatblygu eu sgiliau ymarferol ym maes gweithio allweddol
  • Annog a galluogi’r bobl sydd yno i fyfyrio ar eu harfer a defnyddio’r myfyrdodau hynny.

Bydd yr hyfforddiant yn cael ei achredu – bydd mwy o fanylion yn dilyn yn ystod gwanwyn 2011. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am hyn, cysylltwch â ni