Mae rhai deunyddiau Cefnogi Cynnar eraill a allai fod yn ddefnyddiol i chi – llyfryn rhagarweiniol sy’n sôn wrthoch chi am Cefnogi Cynnar a rhai posteri sy’n hysbysebu Pecyn Teuluol Cefnogi Cynnar.
Yr enw ar y llyfryn rhagarweiniol yw ‘Cefnogi Cynnar a Chi’. Gallwch chi ei lawrlwytho yma, neu ei archebu trwy glicio yma. Mae’r llyfryn hwn yn eich arwain chi drwy Cefnogi Cynnar yng Nghymru, gan ddweud wrthoch chi am nodau Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth gyflwyno Cefnogi Cynnar a sôn ychydig am rôl teuluoedd wrth ddatblygu a defnyddio Cefnogi Cynnar yng Nghymru. Mae’n rhoi ychydig o wybodaeth ar sut gall Cefnogi Cynnar helpu gweithwyr proffesiynol, yn ogystal â chyflwyno deunyddiau Cefnogi Cynnar a’r amrywiaeth o hyfforddiant sydd ar gael.
Mae’r poster ar gael yn ddwyieithog ac mae’n cyflwyno Pecyn Teuluol Cefnogi Cynnar, gan ddweud wrthoch chi sut gallwch chi ei archebu a rhoi rhifau archeb a manylion cyswllt. Byddai’n ddefnyddiol ei arddangos mewn meddygfeydd, ysbytai, canolfannau plant neu unrhyw le arall y mae teuluoedd yn ymweld â nhw’n rheolaidd. Gallwch lawrlwytho copi yma neu archebu copïau (mewn tri maint gwahanol) trwy glicio yma.