Mae Cefnogi Cynnar yn cynnig offeryn a dogfen mapio cefndir sy’n gallu cefnogi gwaith cynllunio a gwella amlasiantaeth. Os hoffech chi gael gafael ar yr offeryn hwn yn uniongyrchol, cliciwch yma, neu os hoffech chi gael gwybod mwy am yr offeryn a’r ddogfen fapio cyn eu lawrlwytho, darllenwch y wybodaeth isod.
Offeryn Cynllunio a Gwella Amlasiantaeth Cefnogi Cynnar (MAPIT)
Mae’r offeryn cynllunio a gwella amlasiantaeth (MAPIT) wedi’i gynllunio i hysbysu a thanategu gwelliant mewn gwasanaethau i blant ifanc anabl ac i blant ag anghenion ychwanegol a’u teuluoedd. Mae’n galluogi grwpiau amlasiantaeth a defnyddwyr gwasanaeth (fel rhieni a gofalwyr) i adolygu gwasanaethau, nodi blaenoriaethau ar gyfer datblygu gwasanaethau ac olrhain cynnydd gydag amser. Mae gan MAPIT gyfraniad pwysig i’w wneud yn hwyluso’r gwaith o gyflwyno a defnyddio rhaglen Cefnogi Cynnar, gan ei fod yn elfen graidd o gyd-gynllunio a chyd-gomisiynu gwasanaethau i blant a phobl ifanc anabl gan awdurdodau lleol, sy’n gweithio gyda’u partneriaid yn y sectorau iechyd a gwirfoddol.
Mae MAPIT yn cyflwyno 10 egwyddor Cefnogi Cynnar ac mae’n pennu cyfres o ddatganiadau Cefnogi Cynnar ar waith, sy’n cael eu cyflwyno ar ffurf safonau ar gyfer ystyried a rhoi tystiolaeth o ddarpariaeth gwasanaethau a gwelliant mewn gwasanaethau. Mae templedi’n cael eu darparu i alluogi’r gweithgarwch hyn, sy’n cynnwys yr egwyddor, datganiad gweithredu ar gyfer pob tudalen a lle gwag ar gyfer gradd a’r dyddiad, ynghyd â lle ar gyfer sylwadau, tystiolaeth, gweithrediadau a monitro ac adolygu gweithrediadau.
Mae MAPIT ar gael i’w lawrlwytho’n unig. I lawrlwytho fersiwn y gallwch chi ei hargraffu a’i llenwi â llaw, cliciwch yma. I lawrlwytho fersiwn word y gallwch chi ei golygu a’i llenwi’n electronig, cliciwch yma.
Dogfen mapio cefndir
Mae’r ddogfen hon yn cyd-fynd â’r Offeryn Cynllunio a Gwella Amlasiantaeth (MAPIT). Mae’n crynhoi egwyddorion Cefnogi Cynnar a sut olwg fyddai ar yr egwyddorion hyn pan fyddent ar waith. Hefyd, mae’n crynhoi’r cysylltiadau rhwng y MAPIT a dogfennau, cynlluniau a mentrau gwella ac adolygu gwasanaeth eraill, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Cliciwch yma i lawrlwytho’r ddogfen hon.