
Mae Pecyn Teuluol Cefnogi Cynnar yn gyfres o ddeunyddiau i helpu teuluoedd weithio mewn partneriaeth ag ymarferwyr. Mae’n cynnwys Ffeil Deuluol i alluogi teuluoedd i rannu gwybodaeth am eu plentyn a’u teulu fel nad oes rhaid iddyn nhw ailadrodd eu stori drosodd a throsodd. Hefyd, mae’n cynnwys cyfres o lyfrynnau gwybodaeth gefndir, sy’n rhoi gwybodaeth gyffredinol y mae teuluoedd yn dweud bod ei hangen arnyn nhw. Mae mwy o wybodaeth am y ddau o’r rhain isod. Mae deunyddiau’r Pecyn Teuluol yn cael eu cadw mewn bag defnyddiol.
Y Ffeil Deuluol
Mae’r Ffeil Deuluol yn ddogfen sy’n cael ei chadw gan y teulu, ac sy’n dod â’r holl wybodaeth berthnasol am anghenion plentyn a’r gwasanaethau sy’n cefnogi’r teulu at ei gilydd. Mae’r Ffeil ar gyfer teuluoedd sydd â phlant ifanc anabl neu blant ag anghenion ychwanegol sydd angen help a chefnogaeth. Gallwch ei chludo gyda chi pan fyddwch chi’n mynd i apwyntiadau a chyfarfodydd mewn mannau gwahanol, pan fydd sefyllfa a datblygiad eich plentyn yn cael eu trafod. Hefyd, gall helpu i chi ddweud wrth ymarferwyr iechyd, gofalwyr plant neu staff sy’n gweithio mewn cylchoedd chwarae a lleoliadau’r blynyddoedd cynnar am eich plentyn. Os hoffech chi wybod mwy amdani, neu os hoffech chi lawrlwytho neu archebu copi, cliciwch yma. I lawrlwytho fersiwn Word o’r Cynllun Gwasanaeth Teulu (FSP), cliciwch yma.
Os hoffech weld ffilm yn sôn am brofiadau rhieni o’r ffeil deuluol, cliciwch yma
Llyfrynnau gwybodaeth gefndir
Mae’r Pecyn Teuluol yn cynnwys amrywiaeth o lyfrynnau gwybodaeth gefndir sy’n rhoi gwybodaeth sylfaenol am y mathau o wasanaethau sydd ar gael, am ofal plant ac am help ariannol. Mae cynnwys y llyfrynnau’n adlewyrchu’r hyn y dywed teuluoedd ‘sydd wedi bod yno o’r blaen’ ei fod yn ddefnyddiol ei wybod. Mae rhai pobl yn hoffi defnyddio’r llyfrynnau ar wahân ac mae rhai pobl yn eu defnyddio nhw ochr yn ochr â Ffeil Deuluol Cefnogi Cynnar. Os hoffech chi wybod mwy am y llyfrynnau gwybodaeth gefndir neu os hoffech chi lawrlwytho neu archebu copi, cliciwch yma.