
Mae pedair set o ddeunyddiau datblygiadol. Mae tair set yn canolbwyntio ar ddathlu datblygiad plant sydd ag anghenion ychwanegol penodol. Hefyd, mae fersiwn gyffredinol sydd â’r nod o ddathlu cynnydd plant sydd ag ystod eang o anghenion ychwanegol, neu gyfuniad o anghenion ychwanegol. Mae’r holl ddeunyddiau’n canolbwyntio ar beth mae eich plentyn yn gallu ei wneud, yn hytrach na beth na all eich plentyn ei wneud, gan eich helpu i lunio cofnod cadarnhaol o gyflawniad eich plentyn ymhen amser. Maen nhw’n ategu gweithio mewn partneriaeth rhwng teuluoedd ac ymarferwyr trwy gynnig fframwaith ac, yn y fframwaith hwn, gall trafodaeth ddatblygu ymhen amser. Yn ogystal, gall y deunyddiau helpu i wella dealltwriaeth pawb o’r prosesau datblygiadol sydd ynghlwm wrth ddatblygiad plentyn.
Dyma’r deunyddiau:-
- Y cyfnodolyn datblygiadol (y fersiwn gyffredinol) – mae’r cyfnodolyn hwn wedi’i gynllunio’n benodol i deuluoedd sy’n gwybod neu sy’n amau nad yw eu plentyn yn debygol o wneud cynnydd yn yr un ffordd neu ar yr un cyflymder â phlant eraill – p’un a bod ffactor neu anhawster dysgu penodol wedi cael ei ganfod a’i enwi, neu beidio. Erbyn hyn, gallwch archebu copi o’r cyfnodolyn hwn. I lawrlwytho fersiwn Word o’r llyfryn 'Sut i ddefnyddio’r cyfnodolyn' yn saesnegm cliciwch yma. I archebu eich lle lawrlwytho ffurflen archebu yma.
- Y cyfnodolyn datblygiadol ar gyfer babanod a phlant byddar – mae’r deunyddiau hyn wedi’u cynllunio ar gyfer teuluoedd sydd â phlentyn ifanc byddar. Maen nhw’n galluogi rhieni i olrhain a dathlu datblygiad cyffredinol eu plentyn, gan ganolbwyntio’n benodol ar y cyfathrebu a’r iaith sy’n dod i’r amlwg. Mae nifer o rannau amrywiol yn llunio deunyddiau’r cyfnodolyn – y cyfnodolyn ei hun, canllaw ‘sut i ddefnyddio’r cyfnodolyn’ a set o gardiau datblygiadol, sy’n amlinellu gweithgareddau sy’n hyrwyddo datblygiad. I archebu eich lle lawrlwytho ffurflen archebu yma.
- Y cyfnodolyn datblygiadol ar gyfer babanod a phlant â syndrom Down - mae’r deunyddiau hyn wedi’u cynllunio i helpu teuluoedd sydd â phlentyn â syndrom Down i ddathlu a monitro datblygiad eu plentyn. Maen nhw wedi’u cynllunio i gefnogi ymyrraeth gynnar trwy wella dealltwriaeth pawb o’r prosesau datblygiadol sydd ynghlwm pan fydd syndrom Down ar blentyn. Yn ganolog i’r cyfnodolyn hwn y mae set o siartiau sy’n cael eu defnyddio gan deuluoedd i gofnodi beth mae eu plentyn yn gallu’i wneud, wrth i amser fynd yn ei flaen ac wrth i’r plentyn ddysgu pethau newydd. I archebu eich lle lawrlwytho ffurflen archebu yma.
- Y cyfnodolyn datblygiadol ar gyfer babanod a phlant â nam ar eu golwg – mae’r deunyddiau hyn wedi’u cynllunio i wneud yn union fel sy’n cael ei ddisgrifio uchod, ar gyfer y cyfnodolyn ar syndrom Down. Fodd bynnag, mae’r deunyddiau hyn wedi’u cynllunio'n benodol i deuluoedd â phlentyn ifanc sydd â nam ar y golwg, ac maen nhw’n canolbwyntio ar y mathau o brosesau datblygiadol a allai ddigwydd ar gyfer y plant hyn. I archebu eich lle lawrlwytho ffurflen archebu yma.
Fodd bynnag, os hoffech archebu copi o unrhyw rai o’r rhain ymlaen llaw, cliciwch yma.