ABCD Cymru – Mynediad ar gyfer plant a phobl ifanc croenddu ac o leiafrifoedd ethnig sydd ag anableddau a/neu afiechydon cronig.

Afasic Cymru – Sefydliad sy’n cael ei arwain gan rieni, sy’n cynrychioli plant a phobl ifanc â namau lleferydd ac iaith.

Association of Speech and Language Therapists in Independent Practice – Y corff proffesiynol ar gyfer therapyddion lleferydd ac iaith sy’n gweithio’n annibynnol.

Gweithredu dros Blant – yn cefnogi plant a phobl ifanc mwyaf agored i niwed y DU

AWARES – Adnodd Cymru gyfan ar gyfer awtistiaeth

Barnardo's Cymru – gweithio gyda phlant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau sy’n agored i niwed, yn eu helpu i adeiladu gwell dyfodol.

Llinell Ymholiadau am Fudd-daliadau Gwasanaeth ffôn cyfrinachol ar gyfer pobl ag anableddau, eu cynrychiolwyr a’u gofalwyr.

British Institute for Learning Disabilities Mae’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau i gefnogi pobl sy’n gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu a’u teuluoedd.

Care Coordination Network UK – sefydliad rhwydweithio sy’n hyrwyddo ac yn cefnogi cydlynu gofal neu waith allweddol ar gyfer plant anabl.

Plant yng Nghymru – Sefydliad elusennol sy’n hyrwyddo buddion plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru ac yn cymryd camau gweithredu i adnabod a bodloni eu hanghenion.

Cyswllt Teulu Cymru – elusen ar gyfer teuluoedd sydd â phlant anabl, sy’n cynnig gwybodaeth ar gyflyrau penodol ac anhwylderau anghyffredin.

Carers Wales – Elusen gofrestredig sy’n cynnig cefnogaeth i unrhyw un sy’n ofalwr.

Child Death Helpline – Gweithwyr proffesiynol a rhieni sy’n gweithio mewn partneriaeth i gynnig gwasanaeth gwrando a chefnogaeth emosiynol i bawb sydd wedi cael eu heffeithio gan farwolaeth plentyn.

Cyngor ar Bopeth – Mae CAB yn helpu pobl i ddatrys eu problemau cyfreithiol, ariannol a’u problemau eraill drwy gynnig cyngor annibynnol, cyfrinachol, am ddim, a thrwy ddylanwadu ar y bobl sy’n llunio polisi.

Council for Disabled Children – Fforwm cenedlaethol ar gyfer trafod, datblygu a lledaenu materion polisi ac ymarfer sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth gwasanaethau i blant a phobl ifanc sydd ag anableddau ac anghenion addysgol arbennig.

Croesffyrdd Cymru - Mae’n hyrwyddo ac yn cefnogi amrywiaeth o wasanaethau sy’n bodloni anghenion iechyd a gofal cymdeithasol gofalwyr, gan eu galluogi nhw i barhau â’u rôl ofalu a chadw’u hannibyniaeth.

Cymdeithas Syndrom Down Cymru – Cymorth i bobl sydd â syndrom Down

Daycare Trust – Elusen genedlaethol ar ofal plant sy’n gweithio i hybu gofal plant fforddiadwy, o ansawdd uchel i bawb.

Deaf Association Wales – Mae’n gweithio i wella mynediad pobl fyddar at gyfleusterau a ffyrdd o fyw y mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n gallu clywed yn eu cymryd yn ganiataol, ac mae’n sicrhau mwy o ymwybyddiaeth o’u hawliau a’u cyfrifoldebau fel aelodau o gymdeithas.

Anabledd Cymru – Cymdeithas genedlaethol o fudiadau i bobl anabl, sy’n ymdrechu i sicrhau hawliau, cydraddoldeb ac annibyniaeth pobl anabl yng Nghymru.

Anabledd Dysgu Cymru – Creu Cymru sy’n gwerthfawrogi ac yn cynnwys pob plentyn ac oedolyn sydd ag anabledd dysgu

Education and Resources for Improving Childhood Continence (ERIC) – Mae’n cynnig cyngor a gwybodaeth ar wlychu’r gwely.

Epilepsi Cymru Nod Epilepsi Cymru yw helpu i wella bywydau pobl sydd ag epilepsi, eu teuluoedd a’u gofalwyr.

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol – Corff annibynnol a sefydlwyd i sicrhau hawliau sifil i bobl anabl.

Family Fund – Gall y Gronfa gynnig grantiau a gwybodaeth i deuluoedd sy’n gofalu am blant o dan 16 oed sy’n anabl iawn neu’n sâl iawn.

Family Rights Group – Mae’n cynnig cyngor a chefnogaeth i deuluoedd y mae eu plant yn dod i gysylltiad â gwasanaethau cymdeithasol.

Genetic Interest Group – Cynghrair genedlaethol o sefydliadau sy’n cefnogi plant, teuluoedd ac unigolion y mae anhwylderau genetig yn effeithio arnyn nhw.

GingerbreadMae Gingerbread yn elusen sy’n gweithio’n genedlaethol ac yn lleol gyda theuluoedd un rhiant ac ar ran teuluoedd un rhiant, i wella’u bywydau.

Independent Panel for Special Education Advice – Mae’n cynnig cyngor annibynnol am ddim ar bob agwedd ar addysg arbennig, gan gynnwys cymorth â chael ail farn am anghenion addysgol plant.

I CAN – Elusen sy’n helpu plant ag anawsterau lleferydd ac iaith.

Kidscape – Yr unig elusen genedlaethol sy’n ymroi i gadw plant yn ddiogel rhag bwlio a cham-drin rhywiol.

Makaton Vocabulary Development Project (MVDP) – Mae Makaton yn ddull cydnabyddedig o addysgu sgiliau cyfathrebu i bobl o bob oedran sydd ag anawsterau cyfathrebu a dysgu.

Mencap yng Nghymru – Elusen fwyaf y Deyrnas Unedig sy’n ymwneud ag anableddau dysgu, sy’n gweithio ar ran pobl sydd ag anableddau dysgu, a’u teuluoedd a’u gofalwyr. Mae’n brwydro dros hawliau cyfartal, mae’n ymgyrchu dros fwy o gyfleoedd ac mae’n herio agweddau a rhagfarn.

Meningitis Trust – Mae’n cynnig ffeithiau, gwybodaeth, llenyddiaeth a chefnogaeth i bobl y mae meningitis a chlefyd meningococaidd wedi effeithio arnyn nhw.

Mudiad Ysgolion Meithrin – â’r nod i roi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru elwa ar wasanaethau a phrofiadau ar gyfer y blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mary Hare – Elusen genedlaethol ar gyfer addysg i bobl fyddar

NDCS – elusen genedlaethol wedi’i hymrwymo i greu byd heb rwystrau i blant a phobl ifanc fyddar.

Cymdeithas Genedlaethol Llyfrgelloedd Teganau a Hamdden yng Nghymru – Mae’n cefnogi rhwydwaith o lyfrgelloedd sy’n rhoi teganau ac offer chwarae ar fenthyg i bob plentyn.

National Association of Wheelchair Children (Go kids go) – Mae’n cynnal cyrsiau hyfforddi sy’n addysgu sgiliau i blant sy’n cefnogi’r defnydd annibynnol ar gadeiriau olwyn.

Cymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol Cymru – Cymdeithas i bobl sydd ag awtistiaeth, gan gynnwys syndrom Asperger, a’u rhieni a’u gofalwyr.

National Centre for Disabled Parents – Canolfan adnoddau sy’n dod â gwybodaeth a deunyddiau sy’n gysylltiedig ag anabledd, beichiogrwydd a magu plant, at ei gilydd.

National Childminding Association (NCMA) – Mae’n hyrwyddo gofal plant cofrestredig ac o ansawdd uchel, fel bod plant, teuluoedd a chymunedau’n gallu elwa ar y gofal plant ac addysg orau.

National Portage Association (NPA) – Mae’r gymdeithas yn cynnig cefnogaeth a gwybodaeth i rieni a gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â Portage, sef gwasanaeth addysgol sy’n ymweld â’r cartref ar gyfer plant cyn ysgol sydd ag anghenion cymorth ychwanegol, a’u teuluoedd.

Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC) – Mae’n arbenigo mewn amddiffyn plant ac atal creulondeb i blant.

Galw Iechyd Cymru – Gwasanaeth cyngor gan nyrsys a gwybodaeth iechyd 24 awr y dydd.

ParentLine Plus – Mae’n cynnig cefnogaeth i unrhyw un sy’n cyflawni rôl rhiant ac mae’n cynnig help a gwybodaeth am amrywiaeth o wasanaethau.

Princess Royal Trust for Carers – Cefnogaeth a help ymarferol i ofalwyr.

Royal Association for Disability and Rehabilitation (RADAR) – Rhwydwaith cenedlaethol i sefydliadau anabledd a phobl anabl sy’n cynnwys pob math o anabledd. Mae’n cydlynu cynllun allwedd cenedlaethol ac mae ganddo wefan o lety gwyliau.

Y Sefydliad Brenhinol Cenedlaethol i Bobl Fyddar (RNID) Cymru – Ei nod yw sicrhau ansawdd bywyd gwell i bobl fyddar a thrwm eu clyw.

Sense Cymru – Sefydliad gwirfoddol i blant ac oedolion a aned â namau amlsynnwyr, a’u teuluoedd.

Sibs – Elusen ar gyfer brodyr a chwiorydd plant a phobl ag anghenion arbennig, anabledd neu salwch cronig.

Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall – yn cefnogi pobl sy’n ddall a rhai sy’n gweld yn rhannol

Scope Cymru – Elusen anabledd flaenllaw i blant ac oedolion sydd â pharlys yr ymennydd

SNAP Cymru – Yn gweithio i hwyluso partneriaeth yng Nghymru

Subtitles@YourLocalCinema.com – Mae’n galluogi pobl sydd â chlyw nad yw’n hollol berffaith i fwynhau ffilmiau yn y sinema.

Tourism for All – Mae’n darparu gwybodaeth am bob math o wyliau i bobl ag anghenion ychwanegol.

Twin and Multiple Birth Association (TAMBA) – Mae’n darparu gwybodaeth a rhwydweithiau cymorth i deuluoedd gefeilliaid, tripledi a mwy.

Wales Council for the Blind – WCB yw’r corff ymbarél ar gyfer nam ar y golwg yng Nghymru.

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Whizz Kidz – Mae’n cynnig cymhorthion symud a chadeiriau olwyn ysgafn neu â phŵer i blant ag anableddau ymsymud.

Winston’s Wish – Mae’n gweithio gyda phlant a theuluoedd ar faterion marwolaeth a phrofedigaeth.

Young Minds – Elusen genedlaethol sy’n ymroi i wella iechyd meddwl pob plentyn.

PPA Cymru – Cymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru