Beth yw gweithio allweddol a phwy sy’n weithwyr allweddol?

Caiff gweithio allweddol ei ddiffinio yn ôl gweithred, yn hytrach nag yn ôl grŵp proffesiynol neu grŵp ymarferwyr. Gall llawer o wahanol bobl yn y gweithlu plant fod yn weithwyr allweddol gan fod y sgiliau, y cymwyseddau a’r wybodaeth y mae eu hangen i gyflawni’r rôl yn berthnasol dim ots beth yw cefndir proffesiynol yr unigolyn.

Mae Cydlynu Gofal y Deyrnas Unedig (CCNUK) yn elusen ar weithio allweddol, ac maen nhw’n gweithio’n agos gyda Cefnogi Cynnar i hyrwyddo gwasanaethau gweithwyr allweddol. Maen nhw’n awgrymu bod gweithiwr allweddol yn ffynhonnell cefnogaeth i’r plentyn anabl a’r teulu ac yn ddolen ar gyfer manteisio ar wasanaethau eraill a’u defnyddio nhw’n effeithiol. Mae CCNUK yn diffinio rôl y gweithiwr allweddol fel unigolyn penodol wedi’i enwi (yr un pwynt cyswllt) sydd:-

  • Yn darparu gwybodaeth
  • Yn pennu ac yn asesu anghenion holl aelodau’r teulu
  • Yn cydlynu cysylltiad proffesiynau lluosog
  • Yn darparu cefnogaeth emosiynol ac ymarferol
  • Yn cynorthwyo teuluoedd wrth ymwneud â gwasanaethau a gallant fod yn eiriolwyr, os oes angen hynny, ar gyfer datrys problemau a phryderon.

Mae CCNUK wedi datblygu safonau gweithwyr allweddol er mwyn cefnogi datblygiad ymarferwyr sy’n weithwyr allweddol o ansawdd uchel. I gael mwy o wybodaeth am y safonau hyn, cliciwch yma.

Mae dull gweithwyr allweddol yn canolbwyntio ar y teulu ac mae’n cynnwys pennu a mynd i’r afael ag anghenion holl aelodau’r teulu. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am weithio allweddol, ei gefndir a’i gysylltiad â pholisi ac arfer, yna mae adnodd y gallwch ei ddarllen sy’n cyd-fynd â hyfforddiant Gweithio mewn Partneriaeth drwy Cefnogi Cynnar. Ei enw yw 'Best practice in key working: what do research and policy have to say?' Fe’i datblygwyd yng nghyd-destun polisi Lloegr, felly nid yw’r cyfan ohono yn berthnasol i Gymru. Fodd bynnag, mae’n adnodd defnyddiol i’ch helpu chi i fwrw golwg ar arfer gweithio allweddol ac ymchwil i’r hyn sy’n gweithio. I lawrlwytho copi, cliciwch yma.

O ran deunyddiau Cefnogi Cynnar – maen nhw’n cynnig fframwaith hyblyg, safonol i helpu gweithwyr allweddol i wneud eu gwaith, gan weithio mewn partneriaeth â rhieni a gofalwyr.

Hyfforddiant gweithwyr allweddol

Hyfforddiant arall Cefnogi Cynnar