Gallant eich helpu chi i:-

  • Gael gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael i chi ac i’ch teulu
  • Cyfarfod â rhieni eraill sydd mewn sefyllfa debyg
  • Teimlo’n fwy gwybodus fel eich bod chi’n barod i gael mwy o ddweud yn y gwaith o gynllunio gwasanaethau ar gyfer eich plentyn
  • Rhannu syniadau am fwynhau bywyd gyda’ch teulu cyfan, dim ots pa mor heriol y gall hynny deimlo weithiau.

Cliciwch yma i lawrlytho fwy o wybodaeth am y gweithdai.

Pam cynnal gweithdai i rieni?

"Mae’r gweithdai hyn wedi cael eu cynllunio a’u datblygu i gefnogi cynnwys plant anabl yn eu cartrefi, yn eu teuluoedd ac yn eu cymunedau. Maen nhw’n edrych ar anghenion teuluoedd o ran gwybodaeth, partneriaeth, lles emosiynol a’r pethau cyffredin mewn bywyd: wrth wneud hyn, maen nhw’n ceisio eu cefnogi i ddarganfod eu hatebion unigryw eu hunain i’w heriau unigryw eu hunain."
(Mark Brown, rhiant)

Os oes plentyn ag anabledd neu angen arbennig gennych chi, gallech sylwi eich bod chi a’ch teulu’n gorfod newid ac addasu fel y gallwch ymdopi a’r materion a’r anawsterau newydd, ac annisgwyl weithiau, sy’n eich wynebu chi fel teulu. Os ydych chi wedi sylwi’ch bod chi’n mynd drwy’r broses hon o newid, proses sy’n gallu bod yn gymhleth, yn anodd ac yn boenus weithiau, yna gall dod o hyd i rywbeth neu rywun i roi ychydig o gefnogaeth, gwybodaeth a chyngor i chi fod yn ddefnyddiol. Nod y gweithdai i rieni yw cynnig y cyfle hwn. Cynigiant gyd-destun i chi ddod ynghyd â theuluoedd eraill, mewn cyd-destun wedi’i strwythuro, er mwyn bwrw golwg ar beth rydych chi’n ei wybod, beth nad ydych chi’n ei wybod ac i rannu eich profiadau, os ydych chi’n dymuno gwneud hynny.

Mae pedwar gweithdy i rieni, wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer teuluoedd sydd â phlentyn ifanc anabl neu blentyn ag anghenion ychwanegol. Byddant yn eich helpu chi i:-

  • Ddeall gwasanaethau cenedlaethol a lleol i blant a theuluoedd, a beth all y rhain eu cynnig
  • Deall Cefnogi Cynnar a deunyddiau Cefnogi Cynnar, fel y Pecyn Teuluol
  • Teimlo’n fwy hyderus ynghylch gweithio gydag ymarferwyr a gwneud penderfyniadau am daith eich plentyn.

Os hoffech weld ffilm yn sôn am brofiadau rhieni o hyfforddiant, cliciwch yma

Os hoffech weld ffilm yn sôn am brofiadau rhieni o’r ffeil deuluol, cliciwch yma

Os hoffech weld ffilm yn sôn am brofiadau rhieni, cliciwch yma

Os hoffech gael disgrifiad manylach o’r gweithdai hyn, cliciwch yma.

Os byddai diddordeb gennych ddod yn hyfforddwr yn y gweithdai hyn, cysylltwch â ni.

Os hoffech lawrlwytho disgrifiadau cwrs ar gyfer holl hyfforddiant Cefnogi Cynnar, cliciwch yma.