Y cyfnodolion datblygiadol a’r protocol monitro

Mae pedair set o ddeunyddiau datblygiadol ar gael ar hyn o bryd. Mae tair set yn canolbwyntio ar ddathlu datblygiad plant ag anghenion ychwanegol penodol. Mae fersiwn gyffredinol hefyd ar gael sydd â’r nod o ddathlu cynnydd plant sydd ag amrywiaeth eang neu gyfuniad o anghenion ychwanegol. Mae’r holl ddeunyddiau’n canolbwyntio ar yr hyn y gall eich plentyn chi ei wneud, yn hytrach na’r hyn na all eich plentyn chi ei wneud, gan eich helpu chi i adeiladu cofnod cadarnhaol o gyflawniad eich plentyn gydag amser. Maen nhw’n ategu gweithio mewn partneriaeth rhwng teuluoedd ac ymarferwyr trwy ddarparu fframwaith ar gyfer meithrin trafodaeth ynddo gydag amser. Yn ogystal, gall y deunyddiau helpu i wella dealltwriaeth pawb o’r prosesau datblygiadol sydd ynghlwm wrth gynnydd plentyn.

Dyma’r deunyddiau:-

  • Protocol monitro ar gyfer babanod a phlant byddar – mae’r deunyddiau hyn wedi’u cynllunio ar gyfer teuluoedd sydd â phlentyn ifanc byddar. Maen nhw’n galluogi rhieni i olrhain a dathlu datblygiad cyffredinol eu plentyn, gyda ffocws penodol ar y cyfathrebu a’r iaith sy’n dod i’r amlwg. Mae pedair rhan wahanol i ddeunyddiau’r protocol monitro – y protocol monitro ei hun, canllaw 'sut i’w ddefnyddio’ a set o gardiau datblygiadol (sy’n amlinellu gweithgareddau sy’n hyrwyddo datblygiad). Y rhan derfynol yw set o ddeunyddiau ar lefel 2, sy’n mynd i lawer mwy o ddyfnder ynghylch datblygiad a defnydd ar gyfathrebu, clyw ac iaith.
  • Cyfnodolyn datblygiadol ar gyfer babanod a phlant â syndrom Down – mae’r deunyddiau hyn wedi’u cynllunio i helpu teuluoedd sydd â phlentyn â syndrom Down i ddathlu a monitro datblygiad eu plentyn. Maen nhw wedi’u cynllunio i gefnogi ymyrraeth gynnar trwy wella dealltwriaeth pawb o’r prosesau datblygiadol sydd ynghlwm pan fydd syndrom Down ar blentyn. Yn ganolog i’r cyfnodolyn hwn y mae set o siartiau y mae teuluoedd yn eu defnyddio i gofnodi beth mae eu plentyn yn gallu’i wneud, wrth i amser fynd yn ei flaen ac wrth i’r plant ddysgu pethau newydd.
  • Cyfnodolyn datblygiadol ar gyfer babanod a phlant â nam ar eu golwg - mae’r deunyddiau hyn wedi’u cynllunio i wneud yr union un peth â’r hyn a ddisgrifiwyd uchod ar gyfer y cyfnodolyn ar syndrom Down. Fodd bynnag, mae’r deunyddiau hyn wedi’u cynllunio’n benodol i deuluoedd sydd â phlentyn ifanc â nam ar y golwg ac maen nhw’n canolbwyntio ar y mathau o brosesau datblygiadol a allai ddigwydd yn gysylltiedig â’r plant hyn. Mae saith set o gardiau’n cyd-fynd â’r deunyddiau hyn – pum set o gardiau gweithgareddau cyffredinol, set o gardiau gweithgarwch ar ddatblygu golwg a set o gardiau ar yr amgylchedd gweledol a deunyddiau gweledol.
  • Cyfnodolyn datblygiadol (fersiwn cyffredinol) – mae’r cyfnodolyn hwn wedi’i gynllunio’n benodol i deuluoedd sy’n gwybod neu sy’n amau nad yw eu plentyn yn debygol o wneud cynnydd yn yr un ffordd neu ar yr un cyflymder â phlant eraill – p’un a bod ffactor neu anhawster dysgu penodol wedi cael ei ganfod a’i enwi, neu beidio.

Os hoffech archebu copi o unrhyw rai o’r cyfnodolion, cliciwch yma. Os hoffech lawrlwytho copi y gallwch ei argraffu a’i ddefnyddio er mwyn ysgrifennu arno, cliciwch yma. Os hoffech lawrlwytho fersiwn Word o unrhyw rai o’r deunyddiau, i’w gadw’n electronig, cliciwch yma. I lawrlwytho adrannau gwahanol o’r deunyddiau datblygiadol ar wahân, ewch i’r dudalen Deunyddiau a dilyn y dolenni perthnasol.