Sut gall Ffeil Deuluol Cefnogi Cynnar helpu?
- Mae’n siwr bod llawer o bethau am eich teulu yr hoffech chi pe bai’r ymarferwyr sy’n gweithio gyda chi yn gwybod amdanyn nhw – ond nid ydych am orfod ailadrodd y rhain byth a hefyd i bawb rydych chi’n cyfarfod â nhw.
- Mae’n bosibl y bydd pethau yr hoffech gadw cofnod ohonyn nhw, cyfarfodydd rydych chi’n mynd iddyn nhw lle mae cymaint o’r cwestiynau’r oeddech chi am eu gofyn yn cael eu hanwybyddu neu eu hanghofio.
- Mae’n bosibl bod rhestr gyfan o flaenoriaethau gennych chi a’ch teulu y mae angen eu hystyried pan fydd ymarferwyr yn gweithio gyda chi i wella pethau i’ch plentyn – ond mae’n ymddangos weithiau bod blaenoriaethau eich teulu’n disgyn i waelod y rhestr.
Gall y Ffeil Deuluol helpu gyda phob un o’r rhain. Gall eich helpu chi i gadw cofnodion gwell ac i gyfathrebu’n fwy effeithiol ag ymarferwyr, gan roi iddyn nhw’r wybodaeth y gwyddoch fod ei hangen arnyn nhw am eich plentyn a’ch teulu.
Os hoffech:-
- Archebu copi o’r Ffeil Deuluol, cliciwch yma
- Lawrlwytho fersiwn Word o’r Ffeil Deuluol, cliciwch yma
- Lawrlwytho copi o’r Ffeil Deuluol y gallwch ei argraffu eich hun, cliciwch yma
- Lawrlwytho copi o’r canllaw i ddefnyddwyr ar gyfer y Ffeil Deuluol, cliciwch yma.
Cliciwch yma i archebu’r Pecyn Teuluol cyfan, sy’n cynnwys y Ffeil Deuluol, y canllaw i ddefnyddwyr a’r llyfrynnau gwybodaeth gefndir, y cyfan ohonynt mewn bag Cefnogi Cynnar.