Pam mae angen am Cefnogi Cynnar yng Nghymru?

Mae plant anabl yn grŵp amrywiol sydd ag anghenion newidiol. Mae’n hanfodol bod y plant hyn yn cael yr un cyfleoedd â phlant eraill – i gael y dewisiadau a’r cyfleoedd rydym ni’n dyheu i’w cael i’n holl bobl ifanc. Mae’n hanfodol eu bod nhw’n cael y gefnogaeth honno mor gynnar â phosibl. Mae ymyrraeth gynnar nid yn unig yn cael effaith gadarnhaol o ran hyrwyddo datblygiad, mae hefyd yn herio unrhyw bosibilrwydd o ddirywio neu atchwelyd cynnar ymhlith plant ag anableddau. Mae rhieni wedi sôn yn gyson bod diffyg cydlyniad ymhlith gwasanaethau; yn wir, bod systemau ar wahân sydd ar waith yn yr asiantaethau statudol yn rhwystro rhieni rhag cael gwasanaeth cysylltiedig. Yn aml, bydd rhieni’n troi’n ‘herwfilwyr’ yn gyflym iawn ac, yn y pen draw, nhw fydd yn brif bwynt cydlynu’r gwasanaethau sydd yno i’w cynorthwyo nhw. Nod Cefnogi Cynnar yw sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu cydlynu’n well, gydag un pwynt cyswllt, sy’n gweithio mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar y teulu a’r plentyn, mewn partneriaeth â rhieni a gofalwyr.

Sut bydd Cefnogi Cynnar yn helpu i gyflwyno gwasanaethau’n well?

Mae Cefnogi Cynnar wedi datblygu amrywiaeth o adnoddau a hyfforddiant sydd wedi’u hanelu at ddod â darparwyr gwasanaethau at ei gilydd i benderfynu beth mae ar y plentyn a’r teulu ei angen ac i roi rhieni’n ganolog yn y broses gynllunio. Dechreuodd gwaith datblygu’r adnoddau hyn a’r hyfforddiant yn Lloegr ac mae gwaith datblygu yn digwydd ar hyn o bryd i sicrhau bod y deunyddiau ar gyfer Lloegr wedi’u haddasu’n briodol i gyd-destun Cymru. Serch hynny, nid y deunyddiau yw’r ymyrraeth a bydd egwyddorion a dulliau Cefnogi Cynnar yn cael eu cyflwyno’n raddol yng Nghymru gyda chefnogaeth ymgynghorwyr Cefnogi Cynnar ledled Cymru.

Beth yw adnoddau ymarferol Cefnogi Cynnar?

Mae amrywiaeth o ddeunyddiau a chyrsiau hyfforddi Cefnogi Cynnar. Mae deunyddiau Cefnogi Cynnar wedi cael eu datblygu i helpu teuluoedd ac ymarferwyr i weithio gyda’i gilydd yn fwy effeithiol. Mae’r deunyddiau’n cynnwys:-

  • Pecyn Teuluol (gan gynnwys y Ffeil Deuluol a’r llyfrynnau gwybodaeth gefndir)
  • Yr offeryn cynllunio a gwella amlasiantaeth
  • Amrywiaeth o lyfrynnau gwybodaeth i rieni
  • Cyfnodolion datblygiadol (i blant â syndrom Down, namau ar y golwg, a fersiwn cyffredinol) a phrotocol monitro i fabanod a phlant byddar

Ymhle gallaf i archebu deunyddiau Cefnogi Cynnar?

Gallwch archebu rhai o ddeunyddiau Cefnogi Cynnar neu’r cyfan ohonyn nhw drwy ddefnyddio’r ffurflen archebu ar y wefan hon. Neu, gallwch ffonio 0845 604 4648 a gofyn am y deunyddiau yr hoffech chi eu cael. Fel arall, gallech anfon neges e-bost at ESWales@mediascene.co.uk a rhestru pa rai o’r deunyddiau yr hoffech chi eu harchebu. Lle bynnag y bo modd, dylech geisio cynnwys cyfeirnod y deunyddiau, sydd ar gael ar glawr cefn pob un o’r deunyddiau. Os hoffech, gallech ysgrifennu i Cyhoeddiadau Llywodraeth Cynulliad Cymru, Blwch Post 90, Bargoed, CF81 9YE a gofyn am y deunyddiau y mae eu hangen arnoch.

Beth yw’r Cynllun Gwasanaeth Teuluol?

Dyma un o brif nodweddion y Ffeil Deuluol. Mae’n cefnogi trafodaeth ar y cyd rhwng y rhiant a’r ymarferydd am ba wasanaethau y bydd ar y teulu a’r plentyn eu hangen a sut bydd y gwasanaethau sydd ar gael yn lleol yn ymateb. Mae’n cynnig cyfle gwirioneddol o’r cychwyn cyntaf i gydlynu gwasanaethau’n well.

A oes unrhyw hyfforddiant ar Cefnogi Cynnar?

Mae naw o wahanol gyrsiau hyfforddi Cefnogi Cynnar:-

  • Gweithdai i rieni – cyfres o 4 gweithdy sydd â’r nod o roi gwybodaeth am Cefnogi Cynnar a hyrwyddo dealltwriaeth ohono. Mae’r rhain wedi’u hanelu’n bennaf at rieni ac aelodau eraill o’r teulu.
  • Gweithio mewn Partneriaeth drwy Cefnogi Cynnar (wedi’i achredu) - wedi’i achredu ar lefel 5 (sy’n cyfateb i safon ail flwyddyn israddedig). Ei nod yw galluogi rhieni/gofalwyr ac ymarferwyr i rannu iaith, cyfathrebu effeithiol, cyflwyno gwasanaethau’n ddi-dor a gweithio mewn partneriaeth, yn unol ag egwyddorion Cefnogi Cynnar.
  • Gweithio mewn Partneriaeth drwy Cefnogi Cynnar (rhaglen ddeuddydd) – wedi’i hanelu at bobl nad oes angen achrediad arnyn nhw gan nad yw’r rhaglen yn cael ei hasesu ac nid yw’n gysylltiedig â chymhwyster. Fel y rhaglen wedi’i hachredu, ei nod yw cefnogi ymdrechion y bobl sy’n cymryd rhan ynddi i roi egwyddorion Cefnogi Cynnar ar waith.
  • Defnyddio offeryn cynllunio a gwella amlasiantaeth Cefnogi Cynnar – cwrs undydd; ei nod yw sicrhau bod ymarferwyr, rheolwyr a rhieni/gofalwyr yn deall diben yr offeryn cynllunio a gwella amlasiantaeth ac yn deall y defnydd gorau arno.
  • Defnyddio protocol monitro/cyfnodolion datblygiadol Cefnogi Cynnar (4 cwrs) – cyrsiau undydd â’r nod o sicrhau bod rhieni ac ymarferwyr yn deall diben y protocol monitro/cyfnodolion datblygiadol a’r defnydd arnyn nhw, a nod y rhain sef cyfoethogi gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd.
  • Darparu Cefnogi Cynnar i blant ag anghenion ychwanegol – mae’n cefnogi’r bobl sy’n cymryd rhan yn y cwrs i weithio tuag at ddyfarniad lefel 3 (sy’n cyfateb i lefel safon uwch). Mae cyfwerth â 4 diwrnod o hyfforddiant yn ei ategu, a’i nod yw cynnig trosolwg o anghenion datblygiadol a dysgu plant sydd ag anableddau ac anghenion ychwanegol.

Beth mae gweithwyr allweddol yn ei wneud?

  • Maen nhw’n gweithio ar draws asiantaethau i gydlynu gwasanaethau, ac i wella’r gofal a’r cymorth y mae ar blant anabl a’u teuluoedd eu hangen
  • Maen nhw’n helpu teuluoedd i gael at a deall gwybodaeth gywir a dibynadwy sy’n cael ei darparu pan fo’i hangen ar deuluoedd
  • Maen nhw’n cefnogi’r teulu cyfan i adnabod eu cryfderau ac i adnabod eu hanghenion ac i weithio allan sut gallai’r anghenion hynny gael eu bodloni
  • Maen nhw’n cynnig cefnogaeth emosiynol ac ymarferol mewn perthynas gefnogol, mewn ysbryd partneriaeth.

A yw gweithwyr allweddol ar gael ym mhob ardal yng Nghymru?

Mae gweithwyr allweddol ar gael mewn sawl ardal yng Nghymru, ond nid ydyn nhw ar gael ym mhobman. Os ydych chi eisiau gwybod a oes gwasanaeth gweithwyr allweddol yn eich ardal chi, gallech ofyn i’ch ymwelydd iechyd, i’ch meddyg teulu, i’r gwasanaethau cymdeithasol neu gallech gysylltu â’ch awdurdod lleol (bydd eu manylion cyswllt ar eu gwefan). Dylen nhw hefyd allu dweud wrthych chi a allwch chi gael gweithiwr allweddol.

Sut gallaf i gael gwybod mwy am beth sy’n digwydd o ran Cefnogi Cynnar yn fy ardal leol i?

Cysylltwch â’ch awdurdod lleol (bydd eu manylion cyswllt ar eu gwefan), cysylltwch â’ch ymgynghorydd Cefnogi Cynnar lleol (cliciwch yma i gael y manylion cyswllt) neu cysylltwch ag unrhyw un o’r ymarferwyr rydych chi’n gweithio gyda nhw ar hyn o bryd. Os byddai diddordeb gennych gymryd rhan mewn Cefnogi Cynnar yn lleol, rhowch wybod i’ch ymgynghorydd Cefnogi Cynnar. Os oes diddordeb gennych mewn cymryd rhan mewn Cefnogi Cynnar yn genedlaethol, cysylltwch â ni.