Datblygwyd y ffeil hon gyda phlant o dan 5 oed mewn golwg, ond nid oes rheswm pam na all gael ei defnyddio ar gyfer plant hŷn. Mae’n canolbwyntio ar gydweithio a dod o hyd i ffyrdd cadarnhaol o symud ymlaen. Mae’n cynnwys set gyffredin o ddeunyddiau sy’n gallu cael eu defnyddio ar gyfer llawer o sefyllfaoedd gwahanol, gydag amrywiaeth o amgylchiadau teuluol.
Gall helpu ymarferwyr i ddod o hyd i fan cychwyn yn eu gwaith gyda chi. Gall eich cefnogi chi yn ystod newidiadau a rhoi ffordd i chi o gadw rhestr gyflawn o’r cysylltiadau diweddaraf, o gofnodion cyfarfodydd ac o gwestiynau – gan eich helpu chi i drosglwyddo gwybodaeth gywir i bobl eraill.
Yn rhai ardaloedd o Gymru, mae gan deuluoedd weithwyr allweddol. Gall y Ffeil Deuluol helpu gweithwyr allweddol i allu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau i bawb sy’n gysylltiedig â’ch plentyn. Gall hefyd eu helpu nhw i gydlynu trafodaethau a gwaith cynllunio.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y Ffeil Deuluol a’i defnydd, gallwch lawrlwytho’r llyfryn Sut i ddefnyddio’r Ffeil Deuluol yma. Mae’r llyfryn hwn yn helpu i chi weld a fyddai’r Ffeil Deuluol yn ddefnyddiol i chi. Mae hefyd yn dweud mwy wrthych chi am weithwyr allweddol ac am ddefnyddio’r Ffeil Deuluol gyda Fy Llyfr Oren, os oes un o’r rhain gennych. Gallwch hefyd lawrlwytho neu archebu copïau o’r Ffeil Deuluol neu’r Pecyn Teuluol cyfan drwy glicio yn y mannau priodol yn rhestr sy’n dilyn:-
- I archebu copi o’r Ffeil Deuluol, cliciwch yma
- I lawrlwytho fersiwn Word o’r Ffeil Deuluol, cliciwch yma
- I lawrlwytho copi o’r Ffeil Deuluol y gallwch chi ei hargraffu i chi’ch hun, cliciwch yma
- I lawrlwytho copi o’r canllaw i ddefnyddwyr ar gyfer y Ffeil Deuluol, cliciwch yma
- Cliciwch yma i archebu’r Pecyn Teuluol cyfan, sy’n cynnwys y Ffeil Deuluol, y canllaw i ddefnyddwyr a’r llyfrynnau gwybodaeth gefndir, y cyfan ohonynt mewn bag Cefnogi Cynnar