Mae Ymgynghorwyr Cefnogi Cynnar yn cynorthwyo i gyflwyno Cefnogi Cynnar ar draws Cymru. Eu rôl yw cyfrannu at ddatblygiad strategaethau amlasiantaeth lleol ac i hyrwyddo’r defnydd ar Cefnogi Cynnar a hyfforddiant Cefnogi Cynnar er mwyn sicrhau gwasanaethau integredig gwell i blant ifanc anabl a’u teuluoedd. Mae’r ymgynghorwyr yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau a gwasanaethau lleol, yn cefnogi ac yn gweithio gyda gwasanaethau integredig lleol i blant a Chanolfannau Plant Integredig sy’n dod i’r amlwg, ac yn cefnogi a gweithio gyda rhieni/gofalwyr ac ymarferwyr i hyrwyddo rhoi Cefnogi Cynnar ar waith, a galluogi hynny. Gallan nhw:-
- Gynorthwyo i weithredu ac ymgorffori Cefnogi Cynnar mewn ardaloedd lleol
- Gweithio mewn partneriaeth gyda phob asiantaeth leol gan gynnwys asiantaethau ym meysydd iechyd, y gwasanaethau cymdeithasol addysg a’r sector gwirfoddol a gweithio gyda rhieni/gofalwyr i hyrwyddo rhoi Cefnogi Cynnar ar waith mewn ardaloedd lleol penodol, a galluogi hynny
- Hysbysu, cefnogi a gweithio gyda gwasanaethau integredig lleol i blant a Chanolfannau Plant Integredig sy’n dod i’r amlwg
- Hysbysu, cefnogi a gweithio gydag ymgynghorwyr rhanbarthol a lleol eraill
- Cyfrannu at ddatblygu strategaeth leol ar gyfer Cefnogi Cynnar
- Gweithio gyda hyfforddwyr Cefnogi Cynnar lleol, rhanbarthol a chenedlaethol i’w cynorthwyo a’u galluogi nhw i gyflwyno a gwerthuso Cefnogi Cynnar a hyfforddiant gweithwyr allweddol ac i feithrin gallu yn lleol i gyflwyno’r hyfforddiant hwn
- Rhoi cyngor ar Cefnogi Cynnar i nifer o fudiadau ac unigolion lleol a rhanbarthol
I gael gwybod pwy yw eich ymgynghorydd lleol ac i weld eu manylion cyswllt, cliciwch yma.