Mae’r llyfrynnau gwybodaeth gefndir yn ffynhonnell ddefnyddiol iawn o wybodaeth i deuluoedd ac i ymarferwyr. Er enghraifft, os nad ydych chi’n siŵr beth mae therapydd galwedigaethol yn ei wneud, neu os ydych chi eisiau gweld beth yw rôl gweithiwr cymdeithasol, yna gallech fwrw golwg ar y llyfryn gwybodaeth gefndir Pobl y gallech chi eu cyfarfod. Neu, os hoffech gael gwybod mwy am ofal plant yng Nghymru a’r mathau o bethau y gallwch chi eu disgwyl, yna gallech fwrw golwg ar y llyfryn gwybodaeth gefndir Gofal plant. Mae’r holl lyfrynnau hyn wedi cael eu cynllunio i roi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi, pan fydd ei hangen arnoch chi. Mae’r wybodaeth sy’n cael ei darparu yn y llyfrynnau hyn yn adlewyrchu’r darlun cenedlaethol – mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi gadarnhau trefniadau penodol yn lleol.

Mae modd archebu neu lawrlwytho’r holl lyfrynnau gwybodaeth gefndir ar wahân neu fel rhan o’r Pecyn Teuluol. Mae’r teitlau presennol wedi’u rhestru isod. Os hoffech archebu unrhyw rai o’r llyfrynnau hyn, neu’r cyfan ohonyn nhw, cliciwch yma a chewch eich arwain i dudalen archebu. Os byddai’n well gennych chi eu lawrlwytho, yna cliciwch ar deitl y llyfryn.