Cefnogi Cynnar Cymru yw mecanwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella gwasanaethau i blant anabl a phlant sydd ag anghenion ychwanegol, a’u teuluoedd
Mae Cefnogi Cynnar wedi datblygu amrywiaeth o adnoddau a hyfforddiant sydd â’r nod o ddod â darparwyr gwasanaethau at ei gilydd i weithio mewn partneriaeth â’r teulu, er mwyn sicrhau bod gofynion y plentyn a’r teulu yn cael eu bodloni. Y nod yw gosod rhieni yn ganolog i’r broses gynllunio. Dechreuodd gwaith datblygu adnoddau a hyfforddiant Cefnogi Cynnar yn Lloegr, ac rydym ni wedi eu diweddaru nhw, wedi gwneud gwelliannau lle’r oedd angen ac wedi’u haddasu fel eu bod yn gweddu i gyd-destun Cymru.
Mae’n bwysig cofio nad y deunyddiau, ar eu pen eu hunain, yw’r ymyrraeth – mae arnynt angen ymarferydd a rhiant yn gweithio mewn partneriaeth, gyda’r plentyn a’r teulu’n ganolog, er mwyn iddyn nhw fod yn effeithiol. Mae egwyddorion a dulliau Cefnogi Cynnar yn sail i’r defnydd ar y deunyddiau ond, ar eu pen eu hunain, nid yw’r deunyddiau’n ddigon. Er mwyn helpu i roi Cefnogi Cynnar ar waith yng Nghymru, mae ymgynghorwyr a hyfforddwyr Cefnogi Cynnar ar gael i roi cyngor, hyfforddiant ac arweiniad. I weld rhestr o ymgynghorwyr Cefnogi Cynnar a’u manylion cyswllt, cliciwch yma.
Mae partneriaeth o fudiadau gwirfoddol wedi cael ei sefydlu ac fe’i comisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod Cefnogi Cynnar yn cael ei gyflwyno ledled Cymru. Dan arweiniad Plant yng Nghymru, dyma’r partneriaid eraill: Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar (RNID), Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB), Barnardos, Awtistiaeth Cymru, Rhwydwaith Cydlynu Gofal y DU (CCNUK), Action for Children, Cymdeithas Syndrom Down, Cyswllt Teulu, Y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar (NDCS), Mynediad i Blant a Phobl Ifanc Duon ac Ethnig Lleiafrifol ag Anableddau a/neu afiechydon cronig (ABCD), Scope, Snap Cymru, Anabledd Dysgu Cymru, Mudiad Ysgolion Meithrin (MYM), Cymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru (WPPA), Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd (NDNA), Cymdeithas Genedlaethol Gwarchod Plant (NCMA). Yn ogystal, mae rhai aelodau o dîm Cefnogi Cynnar yn Lloegr yn rhan o’r grŵp gweithredu. Os hoffech gael gwybod mwy am unrhyw rai o’r mudiadau hyn, cliciwch ar eu logo isod.



















Os hoffech fwrw golwg drwy’r deunyddiau ar gyfer gweithdy dwy awr sy’n amlinellu beth yw Cefnogi Cynnar a beth sydd ganddo i’w gynnig yng Nghymru, cliciwch yma. Os ydych yn gyfarwydd iawn â Cefnogi Cynnar ac yn dymuno’i hyrwyddo, mae’n bosibl y dymunwch ddefnyddio’r deunyddiau gweithdy hyn i godi ymwybyddiaeth o Cefnogi Cynnar yn eich ardal leol. Mae na poster Cymorth Cyntaf ar gael, allwch lawrlwytho yma neu archebu copi.
Os hoffech gael mwy o help yn hyn o beth, cysylltwch â ni. .